Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Torri Gwair y Cyngor

Published: 09/03/2015

Yr wythnos hon (yn dechrau ddydd Llun 9 Mawrth) bydd y Cynghorwyr yn trafod y newidiadau i Bolisi Torri Gwair y Cyngor Sir. Maer newidiadau yn rhan o’r mesurau arbed arian syn cael eu cyflwyno fel rhan o her y Cyngor Sir i ddod o hyd i dros £18 miliwn o arbedion yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae gan y Sir gyfrifoldeb cyfreithiol i reolir Rhwydwaith Priffyrdd o ran cadw llwybrau yn hygyrch ac yn ddiogel i ddefnyddwyr. Dan y polisi drafft diwygiedig, ni fydd y safonau cyfredol ar gyfer ymylon gwair trefol yn newid. Mewn lleoliadau gwledig, bydd lleiniau gwelededd yn parhau i gael eu torri pedair gwaith y flwyddyn. Maer newidiadau ir polisi yn ymwneud ag ymylon ffyrdd gwledig, sef: - Bydd ymylon ffyrdd gwledig nad ydynt yn lleiniau gwelededd yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, yn lle dwywaith (byddwn yn ceisio gwneud hyn fis Mehefin, yn dibynnu ar y tywydd). Bydd y prif ffyrdd yn cael eu torri unwaith y flwyddyn, yn hytrach na dwywaith, i ddwy ystod o led (tua dwy fetr). Bydd pob ffordd wledig fach a di-ddosbarth yn cael ei thorri i un ystod o led (tua un metr), unwaith y flwyddyn, yn hytrach na dwywaith. - Mewn ardaloedd gwledig, bydd ymylon yn cael eu torri’n ôl i reoli chwyn a choed ifanc pob chwe blynedd yn hytrach na bob tair. - Yn ystod y tair blynedd nesaf, mae cynlluniau hefyd i dendro a chynnal prawf marchnad ar y gwasanaeth torri gwair, er mwyn lleihau costau llogi peiriannau ac offer arbenigol ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn gost effeithiol. Disgwylir ir newidiadau hyn arwain at arbedion o £75,000 y flwyddyn. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Maer Polisi Torri Gwair yn cael ei adolygu fel rhan on her i wneud arbedion ar draws y Cyngor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a chytunwyd ar y diwygiadau fel rhan or cynigion ar gyfer y gyllideb. “Mae gadael i’r gwair dyfu’n hirach hefyd yn beth da ar gyfer bioamrywiaeth, ac yn golygu bod y gweiriau ar blodau gwyllt yn gallu blodeuo a hadu, gan adeiladu banc hadau mwy amrywiol yn y pridd. “Fel rhan or broses graffu, ddechrau’r wythnos hon byddwn yn trafod y newidiadau i’r polisi mewn gweithdai gyda chynghorwyr sir, tref a chymuned. Yn dilyn hyn, bydd y polisi diwygiedig terfynol yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet ym mis Ebrill 2015.”