Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gosod wyneb newydd ar yr A550/B5123 The Highway; Penarlâg

Published: 12/03/2015

Cynhelir gwaith i osod wyneb newydd ar ffordd yr A550/B5125 The Highway, Penarlâg rhwng cyffordd Gladstone Way a chyffordd Tinkersdale dros ddau benwythnos yn olynol sef dydd Sadwrn 14 Mawrth, dydd Sadwrn 21 Mawrth a dydd Sul 22 Mawrth. Er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y briffordd a’n gweithlu bydd angen cau’r darn o ffordd i draffig tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo. Bydd gwyriadau traffig lleol mewn lle. Bydd y ffordd ar agor ddydd Sul 15 Mawrth. Bydd busnesau lleol ar agor yn ôl yr arfer a bydd mynediad ar gael i gerddwyr tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo. Bydd maes parcio Tinkersdale, ger yr A550,ar agor yn ôl yr arfer. Mae’r gwaith yn rhan o raglen Diogelwch ar y Ffyrdd a Gosod Wynebau Newydd ar Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint ac fe’i ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd: Mae’r gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud i wella diogelwch cyffordd Gladstone Way a’r groesfan i gerddwyr. Rydym wedi ceisio creu cyn lleied ag sy’n bosibl o aflonyddwch a hoffwn ddiolch i drigolion lleol a theithwyr cyhoeddus am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.