Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Gwasanaeth Maethun cefnogi Wythnos Fabwysiadu a Maethu LHDT

Published: 20/03/2015

Ymunodd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint â Thîm Maethu Wrecasm a Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn ddiweddar, i gynnal digwyddiad ym Mhrifysgol Glyndwr i annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i fod yn ofalwyr maeth neu rieni mabwysiadu. Cynhaliwyd y digwyddiad fel rhan o Wythnos Fabwysiadu a Maethu LHDT. Mae prinder mawr o fabwysiadwyr a gofalwyr maeth Ledled y DU. Mae angen pobl i fabwysiadu tua 4,000 o blant bob blwyddyn a rhaid dod o hyd i 8,000 o ofalwyr maeth ychwanegol. Mae’r ffigyrau’n awgrymu y gellid llenwi’r diffyg hwn pe bai ond dau y cant o bobl LHDT yn dod ymlaen i faethu neu fabwysiadu. Mae gan Sir y Fflint dri o ofalwyr maeth LHDT ac mae’n awyddus i annog mwy o gyplau LHDT neu ofalwyr sengl i ddod ymlaen. Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: “Yn ein profiad ni, mae gan ofalwyr maeth a mabwysiadwyr LHDT yr union sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt. Ond yn bwysicach fyth, mae ganddynt y penderfyniad sy’n hanfodol i ofalu am y plant a’r bobl ifanc hyn sy’n agored i niwed. “Roeddem yn hynod falch fod aelodau o’r gymuned LHDT wedi dod i’n digwyddiad i glywed am y broses ac i siarad â gofalwyr LHDT am eu profiadau. Edrychwn ymlaen at eu rhoi ar ben ffordd eu siwrnai fabwysiadu neu faethu.” Dyma rai o sylwadau ymwelwyr a ddaeth i’r digwyddiad: “Roedd yn ddiddorol a mewnweledol iawn ac rydym wedi cael llawer i feddwl amdano.” “Mae wedi bod yn llawn gwybodaeth, cyfeillgar, personol a chalonogol”. Mae pobl ifanc sydd eisoes yn cael gofal maeth gan bobl LHDT hefyd wedi bod yn sôn am eu profiadau. Meddai un ohonynt: “Mae hi’n ddynes ddoniol a gofalgar sy’n gwneud i mi deimlo’n ddiogel. Rydw i’n lwcus iawn i gael byw gyda hi. Os ydych chi’n hoyw, lesbian, deurywiol neu drawsrywiol ac yn meddwl maethu, peidiwch â gadael i unrhyw beth eich atal. Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn yma ac rydw i fel un o’r teulu, sy’n wych achos mae angen i bawb deimlo’n ddiogel ac yn hapus.” Meddai unigolyn ifanc arall mewn gofal maeth: “Pan gefais wybod fy mod yn mynd i aros gyda chwpl hoyw roeddwn yn teimlo’n gyffrous a’r unig beth a oedd ar fy meddwl oedd beth fyddai fy ffrindiau yn ei feddwl neu yn ei ddweud ond maen nhw’n gefnogol iawn ac yn dod ymlaen â nhw’n dda iawn. Ni ddylai pobl feirniadu cwpl hoyw, nhw yw’r bobl mwyaf anhygoel a gofalgar erioed. Ni fyddwn yn newid fy amser yno am y byd.” Meddai Tor Docherty, Cyfarwyddwr New Family Social, sef rhwydwaith cymdeithasol a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT i deuluoedd a darpar deuluoedd sy’n trefnu Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT: “Tra bo mwy a mwy o bobl LHDT yn dewis mabwysiadu neu faethu, mae nifer yn dal i ofni na fyddant yn cael croeso gan yr asiantaethau. Mae pethau wedi symud ymlaen dros y chwe blynedd diwethaf ym maes mabwysiadu a maethu. Mae ein cymuned fawr o deuluoedd ledled y DU yn hynod o groesawgar a chefnogol. Mae’n amlwg i bawb pa mor dda mae ein plant yn dod ymlaen a pha mor bositif a boddhaol y gall y profiad fod i rieni”. Am fwy o wybodaeth am faethu a mabwysiadu edrychwch ar wefan Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint www.flintshirefostering.org.uk neu www.northwalesadoption.gov.uk. Nodyn i Olygyddion Mae Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF) yn amcangyfrif bod angen cartref mabwysiadu ar 4,000 o blant ledled y DU bob blwyddyn. Mae’r Rhwydwaith Maethu’n amcangyfrif fod angen dros 8,000 o ofalwyr maeth ychwanegol ledled y DU. Trefnir Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDT gan New Family Social, sef rhwydwaith cymdeithasol a redir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDT ar gyfer teuluoedd a darpar deuluoedd. Llun Cynrychiolwyr o Wasanaeth Maethu Sir y Fflint, Tîm Maethu Wrecsam a Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.