Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld â’r Ganolfan Dechrau’n Deg newydd

Published: 20/03/2015

Mae Lesley Griffiths AC, y Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Thlodi, wedi ymweld âr ganolfan Dechraun Deg newydd yn Ysgol Bryn Deva yng Nghei Connah heddiw (dydd Iau 19 Mawrth), i weld y gwasanaethau gofal plant gwych a’r cyfleusterau y maen eu cynnig. Agorwyd y ganolfan y llynedd, diolch i grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru o £825,000. Mae cyfleusterau Dechraun Deg yn cynnig gofal plant am ddim o ansawdd da i rieni cymwys â phlant syn ddwy neu dair oed, cefnogaeth rhianta, gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell a chymorth gyda datblygiad iaith gynnar. Maent yn helpu teuluoedd i ofalu am iechyd a lles eu plant. Cyn y ddarpariaeth newydd, roedd gwasanaethau Dechraun Deg yng Nghei Connah yn gweithredu o nifer o leoliadau yn y dref. Darparwyd gofal plant yn Ysgol Bryn Deva ac roedd y galw am leoedd yn aml yn fwy na’r lleoedd oedd ar gael. Gan weithio mewn partneriaeth âr ysgol a Chylch Chwarae Jig-so, maer ganolfan bwrpasol yn darparu ystod lawn o wasanaethau Dechraun Deg o dan yr un to. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni rhianta, sesiynau iechyd i blant, grwp iaith gynnar a chyfleusterau crèche. Mae 48 o blant nawr yn gallu manteisio ar eu hawl gofal plant Dechraun Deg yn y ganolfan, syn golygu y gellir diwallu ceisiadau am leoedd gofal plant yn llawn nawr. Mae gwasanaethau Dechraun Deg yn yr ysgol hefyd wedi cael eu hehangu i gynnwys cyrsiau tylino babanod, datblygiad iaith gynnar a rhaglenni rhianta, syn cael eu darparu i rieni syn gallu dod âu plant gyda nhw i gael gofal gan staff cymwys, yn y crèche ar y safle. Dywedodd Lesley Griffiths, AC: “Mae wedi bod yn braf gweld y cyfleusterau rhagorol yma yng Nghei Connah ar gwahaniaeth mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru wedi’i wneud. Mae Dechraun Deg yn sicrhau bod plant ledled Cymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd wrth gynnig cefnogaeth a chyngor gwerthfawr i rieni hefyd. Rwyf wedi gweld hyn yma ym Mryn Deva heddiw, a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi chwarae rhan yn sefydlur cyfleuster newydd yma.” Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton, a gyfarchodd y Gweinidog: “Mae wedi bod yn bleser croesawur Gweinidog i’n Canolfan Dechraun Deg wych yng Nghei Connah. Rwyn hynod falch or cyfleuster newydd hwn syn darparu lleoliad gwych ar gyfer darpariaeth gofal plant am ddim a chefnogaeth i rieni lleol sydd â’r hawl i gael Gwasanaethau Dechrau’n Deg, gan ein tîm ymroddedig iawn. Ni fyddai wedi bod yn bosibl ehangu heb arian o raglen grant Cyfalaf Strategol Dechraun Deg Llywodraeth Cymru, a chefnogaeth Ysgol Bryn Deva, felly hoffwn estyn ein diolch ir Gweinidog ac i bennaeth Bryn Deva, Tamasine Croston.” Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Bryn Deva, Tamasine Croston: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru ac i Ddechraun Deg i gael y cyfleuster gwych yma yng Nghei Connah; mae’r adeilad, gydai gyfleusterau a’i amgylchedd o’r radd flaenaf, yn lle eithriadol i blant a theuluoedd ddysgu. Hyd yn oed yn yr amser byr y mae wedi bod yn agored, mae eisoes yn cael effaith gadarnhaol iawn ar yr ardal hon, ac maer ddarpariaeth ar gyfer plant a dosbarthiadau i rieni â nifer dda’n bresennol ynddynt. Rydym yn edrych ymlaen at y misoedd i ddod a gweld yr effaith yn tyfu!”