Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn Cefnogi Awr y Ddaear 2015

Published: 23/03/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Awr y Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd, a gynhelir rhwng 8:30pm a 9:30pm ddydd Sadwrn 28 Mawrth 2015. Ar draws Sir y Fflint, mae busnesau, sefydliadau, teuluoedd ac unigolion yn cael eu hannog i leihau eu hôl troed carbon a gweithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae trigolion Sir y Fflint hefyd yn cael eu hannog i gofrestru ar wefan Awr y Ddaear i bleidleisio gydau switshis golau ar 28 Mawrth i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer gweithredu rhyngwladol yn erbyn newid yn yr hinsawdd - www.earthhour.org Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd; “Mae Awr y Ddaear yn ddigwyddiad byd-eang gwych. Maer Cyngor eisoes wedi cymryd nifer o gamau i leihau ei ôl troed carbon, gwella effeithlonrwydd ynni a gosod systemau gwresogi a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn ei adeiladau a’i dai. Mae dros 40 o weithwyr y Cyngor yn gwirfoddoli fel Cefnogwyr Amgylcheddol, gan roi cyngor i gydweithwyr ar arbed ynni, lleihau gwastraff, a byw a gweithio mewn modd cynaliadwy. Rydym wedi helpu aelwydydd y sir i arbed dros £175,000 y flwyddyn rhyngddynt drwy wneud gwelliannau yn ystod y flwyddyn. Rydym hefyd wedi atal dros 20,000 tunnell o allyriadau carbon. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i wneud gostyngiad pellach mewn allyriadau carbon a chefnogi mentrau syn galluogi grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau i wneud yr un peth.” Maer Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru i ddarparu gwybodaeth i bobl Sir y Fflint ar arbed ynni yn y cartref, sy’n lle gwych i ddechrau gwneud gostyngiadau carbon go iawn ac arbed arian. Yn ôl Defra ar Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, gall y cartref cyfartalog arbed £340 oddi ar filiau gwresogi a thrydan ac atal oddeutu 1.5 tunnell o garbon deuocsid drwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, insiwleiddio ac atal drafftiau, uwchraddio a rheoli systemau gwres canolog yn fwy effeithiol, diffodd offer yn gyfan gwbl a pheidio â defnyddio trydan pan nad oes angen. Dechreuodd Awr y Ddaear yn 2007 yn Sydney ac erbyn heddiw hwn yw digwyddiad torfol mwyaf y byd. Llynedd, diffoddwyd goleuadau tirnodau fel Palas Buckingham, Pont y Golden Gate yn San Francisco, Colosseum Rhufain, Ty Opera Sydney, hysbysfwrdd Coca Cola yn Times Square, ynghyd â miliynau o gartrefi a busnesau ar draws y byd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynllunio digwyddiad Awr y Ddaear yn Sir y Fflint, cysylltwch â Leanna Jones, Swyddog Cadwraeth Ynni yn y Cartref ar 01352 703766 a rhowch wybod i ni beth y byddwch chi’n ei wneud. I wybod mwy am arbed ynni yn eich cartref ac i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar inswleiddio, gwresogi ac ynni adnewyddadwy, cysylltwch â Chanolfan Cyngor Ynni Gogledd Cymru ar 0800 954 0658 neu 01352 876 040.