Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i wasanaeth warden cwn y Cyngor

Published: 26/03/2015

Bydd Gwasanaeth Rheoli Anifeiliaid a Phlâu y Tu Allan i Oriau Cyngor Sir y Fflint yn dod i ben 1 Ebrill 2015. Or dyddiad hwn ymlaen, bydd arnoch chi angen ffonio 0845 3733665 i roi gwybod am unrhyw gi crwydr. Hefyd, ni fydd Warden Cwn y Cyngor yn nôl cwn crwydr. Dylech naill ai gadw’r ci tan y diwrnod gwaith nesaf, pryd y caiff ei gasglu gan y Warden Cwn neu, fel arall, mynd â’r ci i dderbynfa’r Cyngor yn Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd sydd ar agor tan 10pm bob nos, saith niwrnod yr wythnos. Yn ogystal â’r newidiadau uchod, bydd ffi o £20 yn daladwy yn ystod y dydd ar gyfer unrhyw gi crwydr sy’n cael ei ddychwelyd iw berchennog. Fel arall, bydd y ci yn cael ei gludo i Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd er mwyn i’r perchennog ei nôl. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd yn rhaid i’r perchennog dalu dirwy statudol a chostau llety cwn cysylltiedig, sef costau o leiaf un diwrnod. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, Aelod Cabinet y Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu Gwasanaeth Rheoli Plâu cynhwysfawr ac mae’r newidiadau hyn yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn wasanaeth effeithlon a chost effeithiol sy’n cael ei werthfawrogi gan drigolion. Mae’r newidiadau i’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn cael eu cyflwyno fel rhan on her i ganfod gwerth £18 miliwn a mwy o arbedion yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a chytunwyd ar y newidiadau fel rhan or cynigion ar gyfer y gyllideb. Mae manylion llawn y gwasanaeth a ddarperir gan y Cyngor Sir ar gael yn www.siryfflint.gov.uk/gwasanaethaustryd neu drwy ffonio 01352 701234.”