Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy i barhau

Published: 26/03/2015

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn parhau â’i fodel ar gyfer Fforymau Busnes, ar ôl cwblhau’r prosiect Parciau Busnes Strategol. Cynhaliwyd cyfarfod o Fforwm Busnes Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn ddiweddar. Mae’r Fforwm hwn wedi bod yn rhan o Brosiectau Parciau Busnes Strategol Gogledd-ddwyrain Cymru. Daeth dros chwe deg i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn Days Hotel, Gogledd Caer. Ariannwyd y Prosiect ers 2009 drwy gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ond mae’r arian, a’r prosiect yn dod i ben ar 31 Mawrth 2015. Yn y cyfarfod, tanlinellodd Llywydd y Fforwm, y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Barry Jones bwysigrwydd gweithgynhyrchu yn ardal Glannau Dyfrdwy. Roedd am longyfarch y Fforwm ar lwyddo i hyrwyddo’r ardal, ac oherwydd ymrwymiad y Cyngor Sir a’i staff sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect dros y pum mlynedd diwethaf. Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: Mae Tîm Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint yn awr yn awyddus i’r Fforwm barhau i lwyddo ac ehangu i greu Fforwm Busnes Dwyrain Sir y Fflint, a fydd yn cynnwys Sandycroft a’r ardal gyfagos hefyd. Yn ogystal â hyn, rydym yn gweithio tuag at ddatblygu Fforwm tebyg yng ngorllewin y sir. Er nad oes arian ar gael mwyach gan Lywodraeth Cymru, y bwriad yw gweithio gyda busnesau a rhanddeiliaid lleol i sefydlu Fforwm y gallai’r Cyngor Sir wedyn ei gefnogi. Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm ar 01352 703219.