Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ynglyn â gweithwyr mudol

Published: 24/03/2015

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint Colin Everett: “Maer Cyngor yn parhau i weithio gydar gweithwyr mudol iw helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, naill ai yn yr ardal leol, mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig neu eu helpu i ail-wladoli.” “Mae ychydig llai na 50 o’r gweithwyr mudol a arhosodd am un noson yn y ganolfan dderbyn mewn argyfwng yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon i gyd bellach wedi symud i lety dros dro yn yr ardal leol. Maer Ganolfan Hamdden bellach ar agor fel arfer. Bydd tua 40 o weithwyr a arhosodd am ddwy noson mewn ail ganolfan dderbyn mewn argyfwng yn y rhanbarth yn symud i lety dros dro heddiw. Mae pob un ohonynt wedi parhau â’u gwaith dyddiol ers symud or eiddo yn Sealand ddydd Sul.” “Nid yw unrhyw un or opsiynau ailgartrefu dros dro syn cael eu cynnig ir rhai syn dymuno aros yn lleol yn golygu dyrannu tai cyngor a thai cymdeithasol eraill y mae rhestrau aros ar eu cyfer.” Mae gorchmynion gwahardd wedi cael eu rhoi ar y safle yn Sealand ac ystyrir cymryd camau i erlyn y perchnogion.” Cefndir Diben y gweithrediad a gynhaliwyd ddydd Sul 22 Mawrth, y cyntaf oi fath yn Sir y Fflint, oedd gwarchod lles nifer fawr a chynyddol o weithwyr mudol a oedd wedi eu cartrefu mewn modd amhriodol ar safle anniogel ac anghyfreithlon yn yr ardal Sealand. Gweithrediad amlasiantaethol oedd hwn yn cynnwys y Cyngor, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Iechyd, adrannaur Llywodraeth ar Groes Goch Brydeinig a oedd yn darparu cymorth dyngarol yn ôl y gofyn. Gallai’r gweithrediad fod wedi dilyn sawl trywydd yn dibynnu ar y sefyllfa y deuid o hyd iddi ar y safle. Cafwyd tua 100 o weithwyr mudol wedi eu cartrefu ar safle cwbl anaddas ac anniogel ac nid oedd gan yr asiantaethau partneriaethol unrhyw ddewis ond caur safle’n syth â gorchmynion gwahardd brys a chludo’r preswylwyr i ganolfan dderbyn. O ystyried cynifer o bobl y daethpwyd o hyd iddynt bu’n rhaid i’r asiantaethau partneriaethol agor ail ganolfan dderbyn mewn argyfwng yn ychwanegol ir brif ganolfan dderbyn a oedd eisoes wedi ei chynllunio fel cynllun wrth gefn. Roedd y gweithwyr mudol yn barod i gydweithredu ac mae llawer wedi mynegi rhyddhad bod modd iddynt bellach gael gafael ar gyngor a chymorth mewn perthynas âu lles ar ôl byw o dan y fath amodau erchyll. Roedd y brif ganolfan dderbyn yn un arbenigol sydd wedi ei lleoli yn y rhanbarth. Lleolwyd yr ail ganolfan dderbyn yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon sydd wedi ei rhestru yn ein cynlluniau argyfwng iw defnyddio fel canolfan dderbyn mewn argyfwng, a llwyddwyd i gael defnydd ohoni ar fyr rybudd. Mae pob un or gweithwyr mudol yn wladolion Ewropeaidd y mae ganddynt hawl i symud yn rhydd. Does dim un ohonynt yn fewnfudwr anghyfreithlon. Nid ydynt ychwaith wedi torri’r gyfraith mewn unrhyw ffordd. Maent i gyd yn bobl a ddaeth ir Deyrnas Unedig i ddod o hyd i gyflogaeth.