Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol Uwchradd Elfed yn croesawu’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Published: 22/07/2019

Roedd Ysgol Uwchradd Elfed yn falch iawn o groesawu Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams AC, i’r ysgol yn ddiweddar. Roedd gwesteion eraill yn cynnwys Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Carolyn Thomas, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Mr Richard Cooper a Mrs Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Cyngor Sir Y Fflint. 

Yn ystod yr ymweliad cafodd y Gweinidog y cyfle i arsylwi nifer o’r gweithgareddau a oedd yn rhan o wythnos sgiliau’r ysgol.  Ymwelodd â myfyrwyr Blwyddyn 9 a oedd yn datblygu eu sgiliau llythrennedd ariannol cyn galw heibio i weld disgyblion Blwyddyn 8 yn yr adran Saesneg.  Roedd y disgyblion Blwyddyn 8 yn defnyddio bwrdd gwyddbwyll awyr agored yr ysgol i ddangos a deall y strwythur hierarchaeth Macbeth. 

Yn ogystal â hynny, ymwelodd y Gweinidog â myfyrwyr Blwyddyn 7 a oedd yn defnyddio drama i drafod amrywiaeth a myfyrwyr Blwyddyn 9 a oedd yn yr Adran Wyddoniaeth yn canolbwyntio ar y raddfa pH. 

Dywedodd y Pennaeth, Mr Alistair Stubbs: 

“Mae’n anrhydedd i gael y Gweinidog yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Elfed.  Rydym yn falch iawn o'n hysgol yma ym Mwcle a braf iawn oedd cael dangos ein myfyrwyr ardderchog.” 

Dywedodd Y Cynghorydd Carolyn Thomas, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint;

“Roeddwn yn falch iawn o allu ymuno â’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ystod ei hymweliad diweddar ag Ysgol Uwchradd Elfed. Roedd y croeso cynnes a estynnwyd i’r Gweinidog a’r amgylchedd dysgu ardderchog a brofodd yn tynnu sylw at y safonau uchel o addysg a dysg yn ysgolion Sir y Fflint.”

 Buckley Elfed Press pics 11.jpg