Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu ymwelwyr o Japan 

Published: 05/08/2019

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cadeirydd Cyngor Sir Y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman, Dderbyniad Dinesig ffurfiol i groesawu pedwar o fyfyrwyr o Japan ar daith gyfnewid i Sir y Fflint. 

Roedd 40 o bobl yn bresennol yn y derbyniad, gan gynnwys cyfieithydd ar y pryd, Mr Koki Kinouchi, i helpu'r myfyrwyr Japaneaidd i fwynhau eu noson. 

Mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod eang o weithgareddau addysgol a diwylliannol i’r gwesteion o Japan gan gynnwys ymweliadau â Llundain, Lerpwl, Rhydychen, Caer, Castell Y Waun, Bae Colwyn, Castell Conwy, Llandudno a’r Wyddgrug.

Ar ôl cwblhau rhan Cymru o’r rhaglen, bydd ein myfyrwyr o Sir y Fflint yn ymweld â Rhaglawiaeth Miyagi ble mae’r daith gyfnewid wedi cael ei chynnal ers 1991. 

Y myfyrwyr o Japan yw Kaho Tsuda, Keito Otani, Kosuke Murakami a Mizuki Kamo

Y myfyrwyr o Sir y Fflint a fydd yn teithio i Japan yw: Isabel Taylor, Hannah Maddocks, Hannah Bywood, Hamish Peffers, Alexandra Goan a Ruby Griffiths.

Dywedodd y Cynghorydd Bateman: 

“Rwyf wrth fy modd yn cael croesawu ein hymwelwyr Japaneaidd a gobeithio y byddant yn cael profiad gwerthfawr a llawn mwynhad.  Mae’r daith gyfnewid hon yn gyfle hyfryd i'r ddwy wlad ddysgu am ffyrdd o fyw a diwylliannau gwahanol. Aros gyda theuluoedd yw’r ffordd orau o ddysgu drwy drwytho yn yr iaith a’r diwylliant mewn amgylchedd gofalgar gyda chyd fyfyrwyr am gymorth.”

I fod yn gymwys i wneud cais am le ar raglen gyfnewid y flwyddyn nesaf, mae’n rhaid i fyfyrwyr fod rhwng 16 a 18 oed ar 1 Medi 2019, mewn addysg llawn amser yn Sir y Fflint neu mewn addysg llawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint.

I gael syniad o’r hyn y mae'n ei olygu i'r myfyrwyr a'u teuluoedd, bydd noson gyflwyno yn cael ei chynnal nos Fercher, 23 Hydref am 6.30pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Bydd myfyrwyr a fu’n cymryd rhan yn y rhaglen gyfnewid eleni yn rhoi cyflwyniad am eu profiad a'r hyn y maent wedi’i elwa ohono. Bydd rhieni’r myfyrwyr hefyd yn rhoi cipolwg o'u safbwynt nhw. 

Bydd ffurflenni cais ar gyfer y rhaglen gyfnewid ar gael ar y noson, neu drwy gysylltu â Karen Jones 07759295984 neu drwy anfon e-bost at karen.jones@flintshire.gov.uk.

Ariennir y daith gyfnewid gan Ymddiriedolaeth Gyfnewid Ieuenctid Japan Optec Sir y Fflint yn ogystal â grantiau a rhoddion, gan gynnwys rhoddion gan Toyota UK yng Nglannau Dyfrdwy.   

Chair.jpg                     Students.jpg