Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau – Ysgol Gynradd Sandycroft

Published: 07/08/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon ynghylch diogelwch ffordd a thagfeydd o amgylch Ysgol Gynradd Sandycroft.   

Cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol ym mis Gorffennaf, ac ers hynny, mae nifer o breswylwyr wedi gofyn am eglurhad o'r mesurau arfaethedig. 

Trefnwyd ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar gyfer dydd Mawrth, 20 Awst 2019 rhwng 3pm a 7pm yn Ysgol Gynradd Sandycroft, lle bydd swyddogion ar gael i drafod y cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau.