Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwasanaeth Dinesig y Cadeirydd
  		Published: 13/08/2019
Yn ddiweddar, cynhaliwyd Gwasanaeth Dinesig Sir y Fflint yn Eglwys y Santes Eurgain a Sant Pedr, Llaneurgain. 
Roedd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman a’i chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman, yn bresennol yn y gwasanaeth a gynhaliwyd gan Dr. y Parchedig Richard Hainsworth. 
Cynorthwywyd y gwasanaeth gan Fand Arian Llaneurgain, Côr Lleisiau Llaneurgain a’r unawdydd talentog, Owen Barton-Davies. Roedd llawer iawn o bobl bwysig a gwirfoddolwyr lleol ymhlith y gynulleidfa. 

 
 
 
 
 
 
 
Yr Arglwydd Barry Jones a’r Fonesig Janet Jones, cadét yr Arglwydd Raglaw, y Cynghorydd Marion Bateman a’r Cynghorydd Haydn Bateman