Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Drysau Agored - Dydd Sadwrn 21 Medi 2019

Published: 13/08/2019

Tu ôl i’r llenni yn Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarlâg 

Dydd Sadwrn 21 Medi - 10am i 1pm, bydd Archifdy Sir y Fflint, sydd wedi’i leoli yn yr Hen Reithordy, Penarlâg, yn cymryd rhan yn y digwyddiad ‘Drysau Agored’, sef digwyddiad Cymru gyfan sy’n cael ei drefnu gan Cadw. 

Mae Drysau Agored yn cynnig y cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd archwilio trysorau cudd diwylliant a hanes Cymru.

Adeilad o'r 18G yw'r Hen Reithordy sy'n sefyll o fewn ei diroedd ei hun ac a oedd yn gartref i Reithoriaid Penarlâg am dros 200 mlynedd. Ers 60 mlynedd bellach mae’r Rheithordy wedi bod yn gartref i Archifdy Sir y Fflint lle diogelir treftadaeth archifol unigryw'r sir gan ofalu ei fod ar gael i'r cyhoedd. 

Dewch am daith ‘tu ôl i’r llenni’ lle cedwir cofnodion hanesyddol y Sir (mae archebu lle yn hanfodol) a dewch i weld ein harddangosfa am hanes yr adeilad. Mae hwn yn ddigwyddiad AM DDIM. Bydd lluniaeth ar gael. 

Teithiau Archifdy am 10.00am a 11.45am – MAE ARCHEBU LLE YN HANFODOL

Rhif Ffôn: 01244 532364 neu drwy e-bost: archives@flintshire.gov.uk.