Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Dreftadaeth Helygain – 25 Ebrill tan 1 Mai 2015

Published: 31/03/2015

Ddiwedd mis Ebrill, Mynydd Helygain fydd canolbwynt gwyl wythnos o weithgareddau. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi trefnu wythnos i ddathlu treftadaeth gyfoethog Mynydd Helygain. Maer wythnos yn brosiect partneriaeth gyda Stad Grosvenor a Chyfoeth Naturiol Cymru, diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd yr wythnos yn dechrau ddydd Sadwrn 25 Ebrill am 10.30am yn nhafarn y Blue Bell gyda thaith gerdded ar draws y comin dan arweiniad Fiona Gale (archeolegydd) a Troedio Clwyd i edrych ar olion cloddio am blwm. Nos Sadwrn, am 7pm yn Neuadd Bentref Helygain, bydd ffilmiau newydd arbennig yn cael eu harddangos am Dreftadaeth Helygain. Ddydd Sul 26 Ebrill, bydd taith gerdded deuluol i archwilio Mynydd Helygain. Bydd y daith yn cychwyn am 2pm o hen ysgol Rhes-y-cae. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal pob dydd yn ystod yr wythnos, sy’n dod i ben ddydd Gwener 1 Mai gyda sesiwn blas ar archaeoleg o 2pm tan 4pm yn yr hen ysgol yn Rhes-y-cae. Rhowch gynnig ar gofnodi archeolegol gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd a Phowys. Mae’n rhaid archebu lle o flaen llaw, ffoniwch Parc Gwepra ar 01352 703900. Ceir manylion llawn yr holl ddigwyddiadau ar wefan y Cyngor, drwy chwilio am Wythnos Dreftadaeth Helygain neu drwy gysylltu â Lorna Jenner ar 01352 741676 neu lorna.jenner@btinternet.com neu â Rachael Watson ar 01352 703908 neu rachaelwatson@wildlifetrustswales.org. Nodiadau i Olygyddion Gweler ynghlwm daflennir digwyddiadau.