Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgolion Sir y Fflint yn dathlu canlyniadau Lefel A

Published: 15/08/2019

Mae myfyrwyr chweched dosbarth ysgolion Sir y Fflint yn dathlu heddiw wrth i ddosbarthiadau 2019 dderbyn eu canlyniadau Lefel A.  Mae canlyniadau Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) yn dangos bod 98.5% o’r arholiadau a safodd myfyrwyr gyda’r corff arholi wedi ennill graddau pasio A*-E, sydd yn cyd-fynd â ffigwr Sir y Fflint o 98.8% ar y cam hwn yn 2018.

Canran y graddau A* i C yn Sir y Fflint eleni yw 76.2%, o gymharu â 76.5% yn 2018.

Canran y graddau A* ac A  yw 25.9% o holl ganlyniadau CBAC Sir y Fflint,o gymharu â 21.2% yn 2018.  Mae’r cynnydd arwyddocaol hwn yn adlewyrchu’r gwaith caled y mae ysgolion Sir y Fflint yn ei wneud i ymestyn eu myfyrwyr mwyaf galluog i gyrraedd eu potensial.   

Mae’r rhan fwyaf o ymgeiswyr Lefel Uwch Sir y Fflint yn sefyll arholiadau CBAC ac fe fydd canlyniadau arholiadau byrddau arholi eraill ar gael yn nes ymlaen heddiw. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Aelod Cabinet dros Addysg:

“Mae’r Cyngor yn estyn ei longyfarchiadau mwyaf gwresog i holl fyfyrwyr Lefel A Sir y Fflint am eu gwaith caled a'u llwyddiant yn eu harholiadau CBAC. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau arholiadau Byrddau eraill yn ddiweddarach heddiw.

“Wrth i ni ddathlu’r canlyniadau hyn mae’n bwysig cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth athrawon ein hysgolion sydd wedi gweithio mor galed i baratoi eu myfyrwyr ar gyfer yr arholiadau hyn, a rhaid i ni hefyd gofio am y gefnogaeth y mae rhieni a gofalwyr y bobl ifanc wedi ei rhoi iddynt dros y blynyddoedd. Rwy’n arbennig o falch o’r cynnydd cadarnhaol yn nifer y graddau A* ac A eto eleni.

“Mae myfyrwyr Sir y Fflint wedi gweithio'n galed wrth ddilyn rhaglenni astudio heriol. Rwy’n falch iawn dros bob un ohonyn nhw ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar y llwybrau maen nhw wedi'u dewis ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Mae’r canlyniadau hynod foddhaol hyn yn benllanw blynyddoedd o waith caled ar ran myfyrwyr Sir y Fflint ynghyd ag ymroddiad a dawn eu hathrawon wrth eu paratoi ar gyfer eu harholiadau.

"Rwyf wrth fy modd yn llongyfarch pob un ohonyn nhw ac yn diolch i'w hathrawon, eu rhieni a'u gofalwyr am eu hanogaeth a'u cefnogaeth. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw wrth iddyn nhw fynd ymlaen at heriau newydd, boed hynny yn y coleg, yn y brifysgol neu ym myd gwaith.”