Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Canlyniadau TGAU  Sir y Fflint 2019

Published: 30/08/2019

Bydd myfyrwyr TGAU ar draws Sir y Fflint yn dathlu heddiw, wrth i ganlyniadau arholiadau cyhoeddus da gael eu cyhoeddi eto yn ysgolion y Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Ar ran Cyngor Sir y Fflint, fe hoffwn longyfarch ein holl ddisgyblion ar eu canlyniadau TGAU eleni. Unwaith eto mae ein disgyblion wedi perfformio'n dda ac wedi cyrraedd safonau uchel yn eu harholiadau allanol. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff yn yr ysgolion sydd wedi gweithio mor galed i helpu eu myfyrwyr i llwyddo ac i’r holl rieni a gofalwyr sydd wedi darparu cefnogaeth ac anogaeth i'w plant.

Rwy’n gobeithio y bydd y canlyniadau hyn yn galluogi’r myfyrwyr i symud ymlaen i gyrsiau addysg ôl-16 neu ddod o hyd i waith addas.  Dymunwn bob llwyddiant iddynt, pa bynnag drywydd y byddant yn ei ddilyn.” 

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:

“Mae’r Cyngor yn falch o longyfarch myfyrwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr Sir y Fflint am y canlyniadau TGAU da yma. Maen nhw'n ganlyniad ymrwymiad a gwaith caled ein myfyrwyr a'r staff a’u cefnogodd ac maent yn gwbl haeddiannol”.