Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stryd Fawr Treffynnon 

Published: 28/08/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus ar ôl gweithio’n agos gyda busnesau lleol a Chyngor Tref Treffynnon i gael arian ar gyfer diddymu'r parth cerddwyr yn Stryd Fawr Treffynnon. 

Mae ceisiadau llwyddiannus i’r Gronfa Cludiant Lleol a’r Gronfa Adfywio Tref wedi arwain at 70% o’r £800,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru.   Mae’r 30% sy’n weddill wedi dod gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Treffynnon.  

Gan fod y swm llawn o gyllid wedi’i dderbyn ac oherwydd dirywiad wyneb y ffordd ers i’r newidiadau dros dro gael eu cyflwyno, roedd y Cyngor yn awyddus i ddatblygu’r cynllun ar unwaith. 

Dechreuodd y gwaith ar 27 Awst a bydd yn cael ei gwblhau erbyn 30 Tachwedd.     Bydd hyn yn sicrhau bod y trefniadau traffig cyfredol yn parhau mewn grym, er y bydd gofyn i rai ffyrdd gael eu cau yn ystod y cyfnod adeiladu.  Gellir gweld set o gynlluniau yng Nghanolfan Treffynnon yn Cysylltu.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

“Rwy’n falch fod y cynllun llawn yn gallu bwrw ymlaen a gobeithio y bydd yn darparu’r hyn mae busnesau a thrigolion lleol yn y dref wedi bod yn gofyn amdano. Wrth gerdded o amgylch y dref ddoe a siarad gyda busnesau a Chynghorwyr lleol, roeddwn yn cael y teimlad eu bod yn gadarnhaol a bod yna botensial gan fod llawer yn gweithio’n galed i wneud i’r dref ffynnu gyda datblygiadau busnes a chymuned newydd, cyffrous.    

“Roedd treial agor y ffordd yn ychwanegu at y bywiogrwydd ac mae’n wych ein bod yn gallu gwneud hyn yn nodwedd barhaol gydag ychwanegiadau diolch i dderbyn y cyllid grant llawn y gwnaethom ymgeisio amdano gan Lywodraeth Cymru. 

Holywell town centre 02.jpg