Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sioe Deithiol Wythnos Ofal 2019: ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?

Published: 28/08/2019

I ddathlu Wythnos Ofal 2019, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio a Sioe Deithiol rhwng 9 a 12 Medi i dynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd gwaith sydd ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar draws y sir.  Gallai hyn gynnwys gweithio i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartref preswyl, neu bod yn ofalwr 'Rhannu Bywydau' neu ddechrau eich busnes eich hun gan eich bod wedi nodi galw yn eich cymuned y gallwch ei ddiwallu.

Bydd staff ar gael i gynnig cyngor a gwybodaeth o ran sut beth yw gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a’r gwahanol fathau o swyddi sydd ar gael.  

Bydd gan ‘Gymunedau dros Waith’ wybodaeth am eu cwrs 'Llwybr i Ofal Cymdeithasol’, sy’n darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch i ddechrau arni.  

Yna daw'r wythnos i ben gyda Sioe Deithiol yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon ar 12 Medi lle bydd ystod o stondinau gyda gwybodaeth am y sector gofal a chyfleoedd cyflogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae'n debyg mai gyrfa ym maes gofal yw un o'r swyddi mwyaf gwobrwyol y gellir ei gael ac mae’r digwyddiadau galw heibio a’r Sioe Deithiol yn gyfle gwych i gyfarfod â gofalwyr proffesiynol a fydd yn darparu mewnwelediad i waith yn y sector gofal.   Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am brosiect cyffrous a fydd yn cefnogi datblygiad busnesau bach i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol pobl sy’n byw mewn cymunedau yn Sir y Fflint.   Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.”

 

 

Dydd Llun 9 Medi

Siop pop-up Bwcle

Galw mewn gyrfaoedd

10yb – 2yh

 Dydd Mawrth 10 Medi

Llyfrgell y Fflint

Galw mewn gyrfaoedd

10yb – 2yh

Dydd Mercher 11 Medi

Llyfrgell y Wyddgrug

Galw mewn gyrfaoedd

10yb – 2yh

 Dydd Mercher 11 Medi

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy

Galw mewn gyrfaoedd

6yh - 8yh

 Dydd Iau 12 Medi

Canolfan Hamdden Treffynnon

Diwrnod Gwybodaeth

10yb – 2yh

 

 I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Sector Gofal Cymdeithasol yn Sir y Fflint, ewch i www.gofalynsiryfflint.co.uk.