Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfle i gwrdd â’r prynwr newydd

Published: 03/09/2019

Mae tîm Busnes Cyngor Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad “Cwrdd â’r Prynwr” mewn partneriaeth â Grwp Lane End.

Mae Grwp Lane End yn gwmni sydd wedi’i leoli yn Warrington, ac yn arweinydd y farchnad yn y sector adeiladu a thai yn y Gogledd Orllewin, ac yn ddiweddar maent wedi sicrhau contractau yng Ngogledd Cymru.  Maent yn chwilio am gontractwyr lleol i weithio gyda nhw.

Maent yn chwilio i ymgysylltu â bob crefft, gan gynnwys: 

  • Bricwyr
  • Plymwyr
  • Plastrwyr
  • Seiri
  • Peintwyr ac Addurnwyr

Cynhelir y digwyddiad ar 11 Medi, rhwng 11am ac 1pm yn Y Promenâd, Vaughan St, Llandudno, LL30 1AP.

I archebu eich lle, cysylltwch â Mick Cunningham 07341246335 neu Kate Catherall (Sir y Fflint mewn Busnes) – 07876576888 kate.p.catherall@flintshire.gov.uk.