Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdy llwyddiannus arall i fusnesau bach lleol 

Published: 09/09/2019

Manteisiodd dros 30 o fusnesau o Sir y Fflint a’r ardal gyfagos ar weithdy ar sut i reoli llif arian yn ddiweddar.

Trefnwyd y gweithdy gan Sir y Fflint mewn Busnes ar y cyd â Busnes Cymru.  Yn y sesiwn deirawr, arweiniwyd y rhai a oedd yno trwy senario llif arian gan Carol Williams a Clive Barnard, Busnes Cymru, ac Ian Adams o Bathgate Finance.  

Roedd y sesiwn yn cynnwys:

  • Pwysigrwydd llif arian wythnosol/dyddiol. 
  • Creu taenlen go iawn o lif arian
  • Sut i ddeall gwybodaeth am lif arian
  • Cyngor i gynyddu arian sy’n dod i’r cyfrif
  • Datrysiadau cyllid 
  • Anfonebau gostyngiad
  • Dyled ailstrwythuro 

Dywedodd Carol Williams:

“Roedd pob busnes a oedd yn y sesiwn i’w gweld wedi mwynhau ac yn meddwl ei fod yn hynod ddefnyddiol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal mwy ohonynt.”