Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Gostyngiad Person Sengl

Published: 10/09/2019

Bydd gwiriad yn cael ei gynnal cyn bo hir ar y rheiny sy'n talu Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ac yn derbyn gostyngiad o 25 y cant oddi ar eu bil oherwydd eu bod yn byw ar eu pen eu hunain, i wneud yn siwr bod y gostyngiadau’n gywir. Mae hwn yn ymarfer rheolaidd, a chynhaliwyd adolygiad tebyg yn 2017.

Bydd Datatank Ltd, sef darparwr gwasanaeth blaenllaw sy’n arbenigo yn yr adolygiadau hyn, yn cydweithio â’r Cyngor i gadarnhau’r gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys ac i ganfod unigolion sy'n hawlio gostyngiad Treth y Cyngor heb hawl i wneud hynny. 

Os bydd hawliadau anghywir yn cael eu canfod, bydd y Cyngor yn rhoi’r gorau i’r hawliadau ac yn ceisio adennill y gostyngiad o ddyddiad priodol ymlaen.

Ar hyn o bryd mae dros 22,470 o drigolion - bron i un o bob tri chartref - yn hawlio gostyngiad person sengl.  Er bod mwyafrif helaeth y trigolion hyn yn hawlio'r gostyngiad yn gywir, mae’n bosib y bydd achosion lle nad yw'r Cyngor wedi cael gwybod am newid mewn deiliadaeth aelwyd a all effeithio ar y gostyngiad, neu bydd gostyngiad wedi’i hawlio’n anghywir yn fwriadol.   

Anogir unrhyw drethdalwyr sy’n derbyn gostyngiad ac sy'n teimlo nad yw’n gywir, i gysylltu â gwasanaeth Treth y Cyngor ar unwaith ar (01352) 704848 cyn i’r adolygiad llawn ddechrau ym mis Medi.