Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol newydd ar gyfer tymor newydd ym Mhenyffordd

Published: 11/09/2019

Mae Ysgol Penyffordd sydd yn newydd sbon wedi croesawu disgyblion i'r tymor newydd.

Dathlwyd hyn yn ddiweddar mewn digwyddiad lle'r oedd cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y contractwr lleol, Wynne Construction a leolir ym Modelwyddan ar safle’r ysgol gynradd yr 21ain ganrif yn bresennol.

Mae’r gwaith yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg gan Lywodraeth Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy a gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i foderneiddio a gwella Ysgol Uwchradd Cei Connah. 

Bydd yr ysgol newydd bwrpasol hon yn ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg i blant 3 – 11 oed ar safle Abbotts Lane ac yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer 315 o ddisgyblion meithrin, cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol 1 a 2 yn ogystal â neuadd a stiwdio.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Dyma garreg filltir arall wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.  Mae’r buddsoddiad o bron i £7 miliwn yn darparu cyfleuster modern bendigedig ar gyfer plant, pobl ifanc a’r gymuned ehangach a bydd yn cynnig profiad dysgu newydd, llawn ysbrydoliaeth i blant ysgolion cynradd.”

Dywedodd Jayne Mulvey, y Pennaeth:

“Rydym yn falch o gael dechrau flwyddyn ysgol newydd yn yr adeilad gwych hwn. Mae llawer o gyffro wedi bod wrth i ni gynllunio a gwylio’r adeilad yn datblygu dros y dair blynedd diwethaf, ac mae bellach yn braf gweld syniadau’r dyluniad gan Wynne Construction, y staff a’r disgyblion yn cael eu gwireddu mewn man dysgu unigryw. Mae’r adeilad yn anhygoel, dymunol i'r olwg ac fel amgylchedd gwaith. Mae’r cyfleusterau tu mewn a thu allan yn fodern iawn; rydym wedi cael cyfleuster addysgu sydd yn llawer mwy na’r disgwyl. Bydd yn gwasanaethu ein disgyblion a chymuned y pentref yn dda iawn am nifer o flynyddoedd.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Y Fflint a Llywodraeth Cymru am ariannu’r prosiect ac yn ddiolchgar o gael gweithio gydag Wynne Construction, a oedd yn ystyriol a chraff drwy gydol y broses ddylunio ac adeiladu. 

“Mae pawb sydd wedi bod ynghlwm â'r ysgol wedi gweithio'n galed iawn i baratoi ar gyfer yr agoriad ym mis Medi.  Roedd gweld y cyffro a syfrdan ar wynebau disgyblion wrth ddod i mewn i’r ysgol am y tro cyntaf yn ddiweddar yn rhywbeth na fydd y staff yn ei anghofio, rydym yn edrych ymlaen i fwynhau’r cyfleuster addysgu hyfryd hwn yn y blynyddoedd i ddod.” 

Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction:

"Rydym yn falch iawn o fod wedi cael darparu cynllun Ysgol Penyffordd newydd ac i weithio mewn partneriaeth eto gyda Chyngor Sir y Fflint.  Mae cydweithio gyda’r holl bartïon ynghlwm wedi creu cyfleuster gwych ac yn ychwanegol, rydym wedi gallu darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i’r gweithlu adeiladu lleol.”

 

Ysgol Penyffordd PRESS 01.jpg       

            

Ysgol Penyffordd PRESS 02.jpg

 

Ysgol Penyffordd PRESS 03.jpg Ysgol Penyffordd 05.jpg