Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun paneli solar ffotofoltaidd, Cei Connah

Published: 10/09/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi hyrwyddo a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy carbon isel ers tro; o osod technolegau fel paneli solar ffotofoltaidd, pympiau gwres a thyrbinau gwynt yn adeiladau’r Cyngor a thai Cyngor i ddatblygu a gweithredu dwy fferm ynni solar ar hen safleoedd tirlenwi ym Mwcle. Yn wir, yn 2018-2019 cynhyrchodd y Cyngor 4.6 miliwn cilowat-awr o drydan drwy baneli solar ffotofoltaidd, y gwynt, nwyon tirlenwi a gwres a phwer cyfunedig. Mae hyn yn oddeutu 5% o ddefnydd trydan y Cyngor, neu’n gyfwerth â'r pwer a ddefnyddir mewn oddeutu 1,500 o gartrefi ac oddeutu 2,090 tunnell o garbon. 

Bellach, dan y flaenoriaeth ‘Cyngor Gwyrdd’ yng Nghynllun y Cyngor a’r Cynllun Gweithredu Ynni Adnewyddadwy; mae’r Cyngor yn ceisio ymestyn ei ymrwymiad i ynni adnewyddadwy drwy ddatblygu cynllun paneli solar ffotofoltaidd ar dir i’r de o Ffordd y Doc, Cei Connah.  

Y bwriad yw gosod 1.6MW o baneli solar ffotofoltaidd ar y ddaear ac isadeiledd cysylltiedig fel gwrthdroyddion, trawsnewidyddion ac ati. Bydd hwn yn cynhyrchu oddeutu 1.4 miliwn kWh o drydan y flwyddyn sy’n ddigon i roi pwer i 480 o gartrefi, gan arbed oddeutu 439 tunnell o garbon y flwyddyn. Bydd hyn yn helpu lleihau allyriadau carbon; yn lliniaru newid hinsawdd a llygredd aer, a bydd hefyd yn cyfrannu tuag at darged lleihau carbon y Cyngor ei hun o 60% erbyn 2021 a tharged Llywodraeth Cymru o gynhyrchu 70% o’i ddefnydd trydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. 

Mae cais cynllunio yn cael ei baratoi ac, fel rhan o’r ymgynghoriad cyn gwneud cais, mae’r Cyngor yn cynnal arddangosfa gyhoeddus rhwng 11 Medi a 9 Hydref  yn Llyfrgell Cei Connah, Wepre Drive, Cei Connah, Sir y Fflint, CH5 4HA. Bydd yr arddangosfa gyhoeddus yn darparu gwybodaeth ar y cynnig gan gynnwys lleoliad, dyluniadau, cynlluniau a dogfennau/ adroddiadau cynllunio drafft. Dyma’r cyfle i’r gymuned leol ddarparu adborth a sylwadau ar y datblygiad cyn i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno’n ffurfiol. 

Gellir cael gwybodaeth yn ymwneud â’r cynnig neu’r arddangosfa gyhoeddus drwy gysylltu ag Asiant Cynllunio’r Cyngor; Stephenson Halliday:

• Swydd: Stephenson Halliday Ltd, 30 – 32 Lowther Street, Kendal, Cumbria, LA9 4DH

• E-bost: info@stephenson-halliday.com 

• Ffôn: 01539 739000

Bydd yr arddangosfa ar gael i’w gweld yn ystod oriau agor y llyfrgell:

• Dydd Llun a dydd Mawrth: 9am tan 6pm

• Dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener: 9am tan 5pm

• Dydd Sadwrn: 9am tan 1pm

Gobeithir y bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried yn ffurfiol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.