Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Parcio Ceir

Published: 14/04/2015

Ddydd Mercher, 15 Ebrill, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn trafod strategaeth a fydd yn cyflwyno taliadau parcio ym mhob maes parcio tref syn eiddo i’r Cyngor. Yr argymhelliad yw bwrw ymlaen â’r strategaeth a’i chyflwyno ir Cabinet ddydd Mawrth nesaf (21 Ebrill). Mae mesurau parcio a gorfodi yn allweddol i reoli rhwydwaith priffyrdd effeithiol a chynorthwyo i osgoi tagfeydd. Mae rheolaeth effeithiol o barcio oddi ar y stryd yn hanfodol i helpu i gynnal bywiogrwydd tref. Mae’r Strategaeth Parcio wedi ei datblygu i ddarparu dull cyson ar gyfer parcio oddi ar y stryd ym meysydd parcio trefi. Ar ôl ystyried adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus agored a’r gweithdai gyda chynghorwyr sir, tref a chymuned, bydd y trefniadau rheoli parcio arfaethedig yn cael eu cymhwyso mewn trefi lle mae cyfanswm nifer y mannau parcio ym meddiant y Cyngor yn fwy na 50. Bydd taliadau parcio yn berthnasol yn y trefi canlynol: - Y Fflint - Treffynnon - Yr Wyddgrug - Bwcle - Cei Connah - Queensferry - Shotton Bydd pentref Talacre hefyd yn cael ei gynnwys yn y trefniadau rheoli meysydd parcio oherwydd pryderon lleol ynghylch parcio ar effaith y maen ei gael ar y gymuned a’r busnesau lleol. Maer meysydd parcio yng Nghaergwrle a Phenarlâg wedi eu tynnu o’r strategaeth. Nid oes unrhyw fwriad i gyflwyno taliadau ar gyfer defnyddwyr anabl sy’n parcio yn y mannau dynodedig i bobl anabl ym meysydd parcio’r Cyngor. Bydd cynllun trwydded parcio yn y gweithle hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer mannau parcio i weithwyr yn yr Wyddgrug (Neuadd y Sir) a’r Fflint. Mae’r rhain yn feysydd parcio dynodedig o fewn yr ardaloedd rheoli Meysydd Parcio lleol a bydd angen trwyddedau ar weithwyr a Chynghorwyr sy’n gweithio ac yn ymweld âr adeiladau hyn yn rheolaidd. Ni fydd tâl am barcio gyda’r nos yn yr Wyddgrug, fodd bynnag, bydd cyfraniad tuag at gost cynnal a chadw’r maes parcio yn cael ei godi drwy ardoll sy’n berthnasol i holl werthiannau tocynnau theatr yng Nghlwyd Theatr Cymru. Mae manylion llawn y strategaethau, gan gynnwys y taliadau arfaethedig, ar gael ar wefan y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Mae’r Strategaeth Parcio yn cael ei chyflwyno fel rhan o’n her i ganfod arbedion effeithlonrwydd o £18 miliwn a mwy yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rydym ni wedi addasur cynigion gwreiddiol er mwyn ystyried y prif bryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad diweddar, a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran a mynegi eu barn.”