Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Digwyddiad Rhwydweithio Menter Gymdeithasol Gogledd Ddwyrain Cymru yn llwyddiant

Published: 19/09/2019

Cynhaliodd Cyngor Sir y Fflint ail ddigwyddiad rhwydweithio menter gymdeithasol yn ddiweddar.

Cafodd y bobl a ddaeth i’r digwyddiad y cyfle i fwynhau siaradwyr diddorol a oedd yn cynnwys Katie Whitaker Moon ac Adam Crane o Brifysgol Caer a siaradodd am interniaethau a chyfleoedd dysgu yn y gwaith. Cyflwynodd Linzi Jones o Gymunedau Digidol Cymru wasanaeth newydd a gaiff ei ddarparu gan Iechyd a Lles Digidol a sydd wedi ei anelu at ddatblygu’r sgiliau er mwyn i bawb allu mynd arlein beth bynnag fo'u profiad TG. 

Hefyd cynigiwyd hyfforddiant am ddim i’r grwp gan Picturehouse Films ar sut i greu gwell fideos a lluniau i’w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Dyma'r ail ddigwyddiad rhwydweithio menter gymdeithasol i’w gynnal eleni ac mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ac yn annog y cyfraniad mae mentrau cymdeithasol yn ei wneud i'r economi a'r effaith maent yn ei gael ar fywydau trigolion.”

Rhoddodd Mike Dodd o Sir y Fflint ac Ann Carroll o ABC Performance Consulting y diweddaraf ar achredu Lleoedd Menter Gymdeithasol, rhywbeth mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio tuag ato ar ran mentrau cymdeithasol. 

Caiff y Rhaglen Lleoedd Menter Gymdeithasol ei rhedeg gan Social Enterprise UK ac mae’n cydnabod y prif leoedd o ran gweithgaredd menter gymdeithasol. Nod y rhaglen yw hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth ac adeiladu’r marchnadoedd ar gyfer menter gymdeithasol ar lefel lleol a chenedlaethol. 

 

Networking Event 41.jpg

Yn y llun: James Hunt - CAFGAS, Sarah Way - RainbowBiz, Rob Loudon - CSFf, Sue Oliver - RainbowBiz, Andy Crane – Prifysgol Caer, Marianne Lewis - CSFf, Mike Dodd – CSFf, Jane Bellis - Art and Soul Tribe, Linzi Evans – Cymunedau Digidol Cymru, Julie Evans - Pentreperyglon, Ann Carol - ABC Performance Consulting, Kirsty Badrock – Prifysgol Caer, Katie Whittaker Moon – Prifysgol Caer