Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ac Ysgolion Craidd

Published: 19/09/2019

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gynnwys dau brosiect arall yn ei Raglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ac Ysgolion Craidd pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn.

Y prosiectau yw Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti, Shotton. Bydd y costau yn cael eu rhannu dros 2019/20 a 2020/2021 a’u hariannu drwy fenthyca darbodus a grant Llywodraeth Cymru gyda chostau refeniw cysylltiedig yn cael eu gosod yn Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor o 2020/21 ymlaen.

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sicrhau cyfanswm sylweddol o gyllid o Grant Gofal Plant LlC ar gyfer prosiectau amrywiol, gyda dau ohonynt â chysylltiad strategol â’r ddau brosiect addysg arfaethedig Ysgol Croes Atti (safle Shotton) ac Ysgol Brynffordd. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae'r arian grant gan Lywodraeth Cymru'n cael ei groesawu'n fawr. Ond mae yna gyfyngiad amser ac mae angen ei wario erbyn 2021. Byddai’n gwneud synnwyr yn economaidd i ystyried uno ffrydiau ariannol i symleiddio’r prosiectau hyn a lleihau costau yn ogystal â lleihau unrhyw darfu ar yr ysgolion. 

Er mwyn sicrhau’r gwerth gorau dylid rhoi ystyriaeth i uno’r cyllid i ffurfio un prosiect. Pe byddai’r prosiectau’n cael eu huno byddai angen i'r adeiladu fynd ymlaen yn 20/21 ac amcangyfrifir y byddai cyfrifoldeb Sir y Fflint dros y prosiect hwn yn £988,000 yn 20/21 gyda 5% neu £52,000 yn 21/22.

Byddai buddsoddi yn y ddau gynllun arfaethedig yn Ysgol Brynffordd ac Ysgol Croes Atti (Shotton) yn arwain at gyfanswm buddsoddiad o £2,655,000, a byddai £1,362,500 o hwn yn dod o gyllid allanol LlC.