Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Menter gymdeithasol newydd i fynd i’r afael â thlodi bwyd

Published: 19/09/2019

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi menter arloesol yng Nghymru - cynnig ar gyfer model menter gymdeithasol newydd a fydd yn cyfrannu’n sylweddol tuag at leihau tlodi bwyd yn y Sir, pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae'r Cyngor Sir a’i bartneriaid, Clwyd Alun a Can Cook, wedi darparu cefnogaeth i rai o’n trigolion mwyaf diamddiffyn, gan sicrhau fod ganddynt fynediad i fwyd da ffres, drwy nifer o fentrau dros y 18 mis diwethaf, gan gynnwys cynllun "Rhannu eich Cinio" sydd wedi bod yn rhedeg yn ystod gwyliau haf yr ysgol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r Cyngor a’i bartneriaid wedi edrych ar nifer o opsiynau a fydd yn sicrhau datblygu datrysiad cynaliadwy hirdymor i dlodi bwyd.

Y dewis a ffefrir yw menter gymdeithasol newydd gyda hawliau cyfartal gan y tri phartner ar gyfer rheoli a darparu’r cynllun. Bydd bwyd yn cael ei baratoi yn Sir y Fflint drwy nifer o ganolfannau, gyda phrif ganolfan paratoi bwyd yn ardal Shotton.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Roedd Rhannu Eich Cinio yn llwyddiant mawr, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gannoedd o bobl yn ein cymuned.    Rydym eisiau datblygu datrysiad mwy cynaliadwy i dlodi bwyd.  Cenhadaeth y cwmni fydd ‘cysylltu pawb â bwyd da ffres'.  Bydd bwyd yn cael ei baratoi yn Sir y Fflint drwy nifer o ganolfannau, gyda phrif ganolfan paratoi bwyd yn ardal Shotton.”