Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Gwybodaeth ynghylch Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen

Published: 19/09/2019

Holywellextracare04_CarParkPerspective02_2-2880x1800.jpgCynhelir ail Ddiwrnod Gwybodaeth er mwyn i breswylwyr allu cael gwybod mwy am Blas yr Ywen, cynllun gofal ychwanegol newydd Treffynnon a fydd yn agor yn gynnar flwyddyn nesaf.

Mae modd ymgeisio am le yn y cyfleuster newydd o hyd, a bydd gwybodaeth bellach ar gael yn Eglwys San Pedr yn Rosehill, Treffynnon, ar ddydd Mawrth 1 Hydref 2019 rhwng 10am a 6pm.

Darparir y cynllun gofal ychwanegol a fydd yn costio £8.5m gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a bydd cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad yn bresennol ar y diwrnod.

Bydd darpar breswylwyr yn gallu gweld y cynlluniau a gofyn cwestiynau am gostau byw, dewisiadau gofal a chymorth neu am unrhyw agweddau eraill ar y cynllun.

Ni chodir tâl am fynychu’r digwyddiad, ac fe’i cynhelir ar ffurf sesiwn galw heibio, a bydd lluniaeth ar gael trwy gydol y dydd.

Dywedodd Robin Jones, Rheolwr Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen:  “Bydd darpar breswylwyr yn gallu siarad â’n tîm i gael gwybod mwy am fyw mewn cynllun gofal ychwanegol a chofrestru eu diddordeb mewn ymgeisio am le.  Bydd y sesiwn galw heibio yn un anffurfiol ac estynnir croeso cynnes i bawb.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, Cynghorydd Christine Jones:  “Bydd y cyfleuster hwn yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref o ansawdd uchel.  Gan ymateb i’r galw am drefniadau gofal a chymorth, bydd y cynllun newydd hwn yn gynllun arloesol go iawn i Dreffynnon ac i Sir y Fflint, gan ddarparu fflatiau hunangynhwysol, a chan gynnwys fflatiau wedi’u dylunio’n arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia.”

Lleolir Plas yr Ywen yn Ffordd Halkyn, a bydd yn cynnwys 55 o fflatiau i bobl 50 oed a throsodd, gyda mynediad 24 awr i ofal a chymorth ar y safle.

Mae ein partneriaid adeiladu, Anwyl Construction, yn ei adeiladu ar hen safle Ysgol Perth y Terfyn, a disgwylir i’r preswylwyr cyntaf symud i mewn yn ystod y Gwanwyn 2020.

I gael gwybod mwy, trowch at gwefan gofal ychwanegol Plas yr Ywen, anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526.