Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Archif ar y Cyd – Sir Ddinbych a Sir y Fflint 

Published: 26/09/2019

Mae Gwasanaethau Archif Sir Ddinbych a Sir Y Fflint yn bwriadu uno er mwyn creu gwasanaeth gwell, mwy cynaliadwy ac effeithlon ar gyfer yr ardal.

Mae nifer o resymau dros yr uniad. Mae’r ddau gwasanaeth yn wynebu nifer o heriau a gellir mynd i'r afael â'r rhain drwy greu gwasanaeth ar y cyd rhwng y ddwy sir, a symud i adeilad newydd pwrpasol. 

Does dim llawer o le ar gyfer archifau Sir Ddinbych a Sir Y Fflint i gadw rhagor o gofnodion. Mae’r Hen Reithordy ym Mhenarlâg a’r Carchar yn Rhuthun, fel adeiladau rhestredig Gradd II hanesyddol, yn rhoi nifer o heriau gweithredol a mae costau rhedeg sylweddol yn cynyddu.

Mae’r prosiect yn ceisio datrys ein problemau o ran llety drwy greu cartref pwrpasol newydd ar gyfer y gwasanaeth ar y cyd. Bydd adeilad newydd yn darparu ystorfa archif cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth hyd y gellir gweld o ran gwagle storio, cynnal a chadw adeilad a rheoli adeilad.  

Safle ger Theatr Clwyd, yr Wyddgrug yw ein dewis a ffefrir (gweler argraff arlunydd). Bydd bod yn ymyl y theatr yn helpu i greu hwb ddiwylliannol a’n caniatáu i weithio gyda'n gilydd a darparu gweithgareddau ar y cyd.

Nod y gwasanaeth newydd hwn fydd estyn allan i gynulleidfaoedd newydd. Byddwn yn annog mwy o bobl ifanc i ymweld a rhyngweithio gyda’r Gwasanaeth Archif drwy hyrwyddo dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys cysylltu â'r theatr i gyflwyno storiau o'r archifau mewn modd mwy gweledol a chyfranogol. Rydym yn bwriadu cynnig gweithdai, cyrsiau a diwrnodau themâu, i ddod â hanes yn fyw i bobl lleol ac hefyd i estyn allan i’n ymchwilwyr cenedlaethol a rhyngwladol drwy addysg ar-lein/ digidol a deunyddiau adnoddau.  

Hoffem glywed eich safbwyntiau ar ein prosiect newydd i’n helpu i lunio’r gwasanaethau a gweithgareddau yn y ganolfan archif newydd. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ein holiadur ar-lein (https://www.surveymonkey.co.uk/r/CanolfanArchifau-ArchiveCentre) neu lenwi copi caled o'r holiadur yn y swyddfa. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y ddogfen Briff Cyhoeddus ar dudalen Newyddion a Digwyddiadau ar ein gwefan: flintshire.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Records-and-Archives/Home.aspx).

Artist's impression of the new Archive Building at Theatr Clwyd.jpg