Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Contractwyr Cyngor Sir y Fflint yn darparu buddiannau sylweddol ar gyfer cymunedau lleol

Published: 25/09/2019

Mae datblygiad Kier o’r Ganolfan Ddydd i Oedolion yn Queensferry wedi rhoi gofal dydd Anableddau Dysgu a hwb cyfleoedd o ansawdd uchel i drigolion Sir y Fflint. Yn ogystal, drwy eu hethos o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, mae Kier wedi creu buddion o werth cymdeithasol ehangach ar gyfer y gymuned, yr economi a’r amgylchedd. 

Cyflwynwyd adroddiad diweddar i Gyngor Sir y Fflint yn nodi bod adeiladu prosiect gwerth £4.1 miliwn dros gyfnod o 2 flynedd wedi galluogi £3.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer effaith cymdeithasol a buddion economaidd ac amgylcheddol.  Mae hyn yn cynnwys 13 o bobl dros 16 oed yn elwa o brofiad gwaith, 6 prentisiaeth i ddechreuwyr newydd a 5 cyfle i oedolion, 600 o ddisgyblion yn elwa o ymweliadau ag ysgolion a cholegau a’r gallu i gynnal 25 o ddiwrnodau hyfforddi.  Yn ogystal, trefnodd Kier Construction ddigwyddiad yng Ngholeg Cambria i ddarparu cefnogaeth gyflogaeth ymarferol i gyn-bersonél yr heddluoedd a daethant i’r Ffair Yrfaoedd flynyddol yn Ysgol Uwchradd Elfed i gynnig blas ar yrfa yn y diwydiant adeiladu i ddisgyblion.

Meddai Peter Commins, Kier Regional Building Gogledd-Orllewin Lloegr:

Rydym ni’n ymrwymedig yn Kier i greu gwerth ehangach i bobl a chymunedau ym mhopeth yr ydym yn ei wneud. Rydym yn gweithio’n galed i gael effaith gymdeithasol gadarnhaol ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gadael cymynrodd barhaol i bobl Sir y Fflint yn ystod y gwaith o ddarparu’r Ganolfan Ddydd i Oedolion yn Queensferry.”

Mae cyflawniadau Kier yn cael eu croesawu gan Gyngor Sir Sir y Fflint sy’n annog y contractwyr ei fod yn gweithio i fabwysiadu dull ‘gwerth cymdeithasol’, er mwyn cynhyrchu effaith gadarnhaol ar drigolion, cymunedau ac economi Sir y Fflint.

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau gyda chyfrifoldeb am Werth Cymdeithasol:

“Rydym yn cymeradwyo’r cyfraniadau cadarnhaol y mae Kier wedi’u gwneud ochr yn ochr ag adeiladu canolfan ofal o’r radd flaenaf ar gyfer trigolion Sir y Fflint.  Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda'n contractwyr i'w cefnogi yn eu hymdrechion i sicrhau buddion cymdeithasol a llesiant.  Amlygir hyn gan ein penodiad diweddar o Swyddog Gwerth Cymdeithasol ymroddedig a fydd yn cefnogi staff a chontractwyr Sir y Fflint i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i gynhyrchu gwerth cymdeithasol a buddion cymunedol."

Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’r cyfleuster newydd hwn yn ail-gadarnhau ymrwymiad y Cyngor i wasanaethau o ansawdd, buddsoddi arian i wasanaethau hanfodol, er yr anawsterau ariannol cyfredol y mae pob awdurdod lleol yn eu hwynebu.  Dwi’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf diamddiffyn.”

KIER 19 07 002.jpg 

Lluniau: Beccy Lane   

KIER 19 07 004.jpg