Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn ennill y Wobr Aur! 

Published: 26/09/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn Gwobr Aur gan Gynllun Cydnabod Cyflogwr y Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Y wobr aur yw anrhydedd fwyaf y cynllun. Mae Cyngor Sir y Fflint yn un o gant o gyflogwyr, ac yn un o 23 o awdurdodau lleol yn y DU, sydd wedi'i gydnabod gan y Gweinidog dros Amddiffyn, Ben Wallace, am ei gefnogaeth anhygoel i gymuned y Lluoedd Arfog drwy dderbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwr. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno ar 12 Tachwedd 2019 yn Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin yn Llundain. 

I gyflawni’r Wobr Aur, mae’n rhaid i gyflogwyr ddangos nad yw cymuned y Lluoedd Arfog yn cael ei thin dan anfantais yn y gweithle. Mae cymuned y Lluoedd Arfog yn cynnwys milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Meddai’r Cyng. Andrew Dunbobbin, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir y Fflint: 

“Rydym ni’n hynod o falch ein bod ni wedi derbyn y Wobr Aur yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chymuned y Lluoedd Arfog. Mae cael ein gweld fel cyflogwr enghreifftiol yn anrhydedd fawr. 

“Rydym ni wedi cyflwyno polisïau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn ac arweinwyr cadetiaid. Rydym ni’n cydnabod gwerth cefnogi gweithwyr o gefndir milwrol. Mae’r profiad, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae cyn-filwyr a milwyr wrth gefn wedi’u cael yn y fyddin ac yn ei roi i’r Cyngor yn aruthrol. 

“Byddwn yn parhau i weithio i anrhydeddu ein hymrwymiadau yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog, gan sicrhau nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais”. 

Mae’r Cyfamod yn ymrwymiad gan y wlad na ddylai aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog wynebu unrhyw anfantais o'u cymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau ac y dylid rhoi ystyriaeth arbennig mewn rhai achosion, yn enwedig i'r rhai sydd wedi rhoi’r mwyaf.