Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghori ynghylch gwastraff ac ailgylchu 

Published: 26/09/2019

Ddydd Mawrth, 24 Medi, cytunodd Cabinet y Cyngor gynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus ynghylch dyfodol y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu. 

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 25 Medi a 31 Hydref a bydd yn: 

  • Rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am ein llwyddiant wrth ailgylchu 
  • Rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am yr hyn sy’n digwydd i ddeunyddiau ailgylchu 
  • Egluro pam bod angen adolygu’r gwasanaeth 
  • Darparu gwybodaeth am dueddiadau ailgylchu
  • Ystyried y dewisiadau ar gyfer newid y gwasanaeth er mwyn ailgylchu mwy 

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor a bydd modd i breswylwyr lenwi holiadur byr i ddweud eu dweud. Bydd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus hefyd yn cael eu cynnal ar draws y sir, lle bydd swyddogion o'r Cyngor wrth law i drafod unrhyw fater yn ymwneud ag ailgylchu. 

Drwy ddilyn Strategaeth Gwastraff Trefol y Cyngor, mae perfformiad ailgylchu'r Cyngor wedi rhagori ar y targedau statudol pob blwyddyn ers 2014, gyda'r ffigyrau perfformiad diweddaraf yn 68% ar gyfer 2018/2019, sydd bron â chyrraedd y 70% sy’n ofynnol erbyn 2024/2025.

Mae Llywodraeth Cymru ar ganol adolygu ei pholisïau cenedlaethol gyda’r bwriad o ddiwygio targedau yn dilyn dadansoddiad o gyfansoddiad deunyddiau gwastraff sy’n dangos bod eitemau fel caniau, poteli plastig a gwastraff bwyd yn dal yn cael eu rhoi mewn biniau gwastraff gweddilliol yn hytrach na chynwysyddion ailgylchu.   

Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Ynghyd â chynghorau eraill yng Nghymru, rydym ni’n dilyn glasbrint Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu. Sir y Fflint yw’r drydedd sir orau yng Nghymru a Chymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu; rydym ni wedi cyrraedd ein targed o 70% pum mlynedd yn fuan. Mae’r llwyddiant hwn yn sgil partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor a phreswylwyr, a hoffaf ddiolch i breswylwyr Sir y Fflint am eu rhan fawr yn hyn.  

“Fodd bynnag, rydym ni wedi cyrraedd croesffordd. Flwyddyn nesaf bydd yn rhaid i ni adolygu’r rowndiau er mwyn cynnwys datblygiadau newydd a chludo gwastraff gweddilliol i’r cyfleuster ynni newydd o wastraff ym Mharc Adfer. Rwan yw’r amser i gynnwys unrhyw newid i’r ffordd rydym ni’n casglu gwastraff, boed yn amlder neu fwy o orfodaeth ac addysg i gynyddu cyfraddau ailgylchu.

“Amlygir yn aml mewn cyfarfodydd rhanbarthol ein bod ni’n gwneud pethau’n wahanol i awdurdodau eraill, sydd yn edrych ar gasglu gwastraff gweddilliol yn llai aml. Er ein bod ni’n effeithlon iawn, mae’n rhaid i ni ystyried hyn.

“Daw ein Strategaeth Wastraff bresennol i ben yn 2025, ac mae perygl y byddem yn cyrraedd wal ac yn methu’r targed nesaf os nad ydym ni’n adolygu pethau. Mae arnom ni hefyd angen mwy o breswylwyr i ailgylchu eu gwastraff bwyd; sy’n cael ei gludo i gyfleuster gerllaw sy’n troi’r gwastraff yn drydan a gwrtaith.

“Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu ei glasbrint, gan hepgor rwbel a choed yn y dyfodol, a fydd yn cael effaith negyddol ar ein targed ailgylchu ni. 

“Mae pwysau gan grwpiau ymgyrchu yn cynyddu, ac mae newid hinsawdd yn bryder go iawn.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol wahanu casgliadau cynnyrch iechyd amsugnol, gan gynnwys clytiau, fel rhan o gasgliadau llai aml. 

“Mae llywodraethau hefyd yn edrych ar ddeddfwriaeth newydd gan gynnwys “cyfrifoldeb cynhyrchwyr” ac mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch targedau ailgylchu ar gyfer busnesau, yn ogystal ag aelwydydd.

“Rydym ni’n sylweddoli nad yw un gwasanaeth yn addas i bawb, a bod angen dulliau gwahanol mewn rhai ardaloedd.

“Hoffaf annog pob preswylydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud ei ddweud am ddyfodol gwasanaethau ailgylchu a gwastraff.” 

Os hoffech chi siarad gyda ni ynglyn â’r gwasanaeth, cynhelir sesiynau galw heibio yn y lleoliadau canlynol.

Canolfan Bwcle yn Cysylltu - Dydd Llun 7 Hydref, 10am-2pm
Canolfan yr Wyddgrug yn Cysylltu - Dydd Mercher 9 Hydref, 10am-2pm
Canolfan y Fflint yn Cysylltu - Dydd Gwener 18 Hydref, 10am-2pm
Canolfan Cei Connah yn Cysylltu - Dydd Mawrth 15 Hydref, 10am-2pm
Canolfan Treffynnon yn Cysylltu - Dydd Iau 17 Hydref, 10am-2pm

Cysylltwch a ni: 01352 701234