Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Murlun RainbowBiz

Published: 02/10/2019

Mae murlun wedi’i ddadorchuddio yn RainbowBiz, yr Wyddgrug, diolch i’r artist lleol Graham Boyd, i ddathlu grwp Cyfeillion Celf RainbowBiz. Meddai’r Arglwydd Barry Jones, a fynychodd y digwyddiad:

“Mae’n anrhydedd gennyf fod yn Noddwr Cwmni Buddiannau Cymunedol RainbowBiz. Mae’r Hippy Shop yn yr Wyddgrug yn daclus a threfnus iawn, ac yn glod i’r tîm sy’n gweithio yno. I fyny’r grisiau mae’r murlun a roddwyd gan Absolutely Design yn llawn hapusrwydd a goleuni.”

 

Rainbow Biz 02.jpg

 

Rhes uchaf, o’r chwith i’r dde: Wendy Roberts, Harry Homer, Ian Comish, yr Arglwydd Barry Jones, Graham Boyd (Absolutely Design), Mike Dodd 

Rhes isaf, o'r dde i’r chwith: Tina Simon, Joe Johnson, Sarah Way, Daz Cook, Sam Griffiths