Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith i wella ysgol yn gwneud cynnydd da

Published: 09/10/2019

Mae gwelliannau i ysgol gynradd yn Sir y Fflint wedi symud cam yn agosach, gyda seremoni “arwyddo trawst” yn ddiweddar.

Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi dros £2.3m i drawsnewid Ysgol Glan Aber yn ysgol sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Mae hyn yn cynnwys £1.3m o nawdd Llywodraeth Cymru i ostwng maint dosbarthiadau babanod trwy greu ystafell ddosbarth ychwanegol, a fydd yn caniatáu i’r athrawon roi mwy o amser a sylw unigol i bob un o’u disgyblion.   Bydd y nawdd hefyd yn darparu neuadd newydd a chyfleusterau bwyta.

Mae’r Cyngor wedi penodi cwmni lleol Kier Construction, a leolir yn Wrecsam i ymgymryd â’r gwaith gwella hwn.  Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint fel rhan o Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru a rhaglen buddsoddi cyfalaf y Cyngor.   

Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard:

"Mae’r buddsoddiad hwn yn bwysig iawn i Ysgol Glan Aber ac yn dangos fod Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i wella a diweddaru ein hysgolion. Bydd y cyfleusterau modern hyn ar gyfer ein pobl ifanc a’r gymuned ehangach yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i’n plant ysgol."

Dywedodd Peter Commins, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Kier Regional Building North West:

“Rydym yn hynod falch o gael parhau ein perthynas â Sir y Fflint. Bydd y gwelliannau hyn yn darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu modern i staff a disgyblion yr ysgol am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

"Rwy’n falch iawn o glywed fod y gwaith yn dechrau ar y cyfleusterau newydd yn Ysgol Glan Aber, sy’n hyrwyddo gwelliannau hanfodol ar draws ysgolion Cymru.

"Mae gwaith ymchwil a thystiolaeth ar draws y byd yn nodi fod dosbarthiadau llai yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad, yn arbennig ar gyfer ein disgyblion ieuengaf, y rheiny o gefndiroedd mwy difreintiedig a’r rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol.

"Mae’r buddsoddiad hwn yn hollol angenrheidiol os ydym am ddarparu’r amgylchedd y mae disgyblion yn eu haeddu, yn ogystal â’u cefnogi i gyflawni eu huchelgeisiau. Mae hyn yn ganolog i’n cenhadaeth i godi safonau, lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol." 

 

Glan Aber Beam Signing 01.jpg