Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Blynyddol Sir y Fflint yn Cysylltu

Published: 21/10/2019

Ar 22 Hydref bydd y Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2018/19 Sir y Fflint yn Cysylltu.  

Mae’r adroddiad yn  edrych ar ymrwymiad y Cyngor i ddarparu mynediad wyneb yn wyneb a digidol i wasanaethau’r Cyngor.

Yn ystod 2018/19 derbyniodd y Canolfannau Cyswllt dros 115,000 o ymholiadau ynglyn â gwasanaethau’r Cyngor, o gwestiynau yn ymwneud â thai a threth y cyngor i hawlio budd-daliadau a bathodynnau glas.   

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Reolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

“Mae hwn yn Adroddiad Blynyddol cadarnhaol sy’n edrych ar ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog sy’n hygyrch ac yn ymateb i anghenion cymunedau.   

“Yn ystod y 12 mis diwethaf rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld â’r Canolfannau Cyswllt ac rwyf yn falch iawn bod llawer o’r cwsmeriaid hynny yn fodlon iawn ar y gwasanaeth a geir yn staff y Cyngor.   

Wrth i’r Cyngor barhau i ddatblygu gwasanaethau ar-lein modern sy'n galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau ar adegau sy’n gyfleus iddyn nhw, mae’r Canolfannau Cyswllt yn parhau i ddarparu cymorth i helpu pobl ddefnyddio’r gwasanaethau digidol hynny.  Cefnogwyd dros 12,000 o bobl y llynedd, ac mae hynny’n dyst i’n hymrwymiad i gefnogi cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein rwan ac yn y dyfodol.”