Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Published: 24/10/2019

Bydd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2018-19 yn cael ei drafod mewn cyfarfod Cabinet ddydd Mawrth 22 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor.

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu'r cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19, ac mae'n crynhoi cyflawniadau'r sefydliad. Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gael ei redeg yn dda a pherfformio'n dda. Mae ein perfformiad da cyson wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae rhai o’n llwyddiannau i’w gweld isod:

  • Parhau i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd y cyngor gyda 153 wedi’u hadeiladu erbyn diwedd Mawrth 2019.  
  • Parhaodd rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif gyda gwaith datblygu mawr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac ysgol gynradd newydd sbon yn cael ei hadeiladu ym Mhenyffordd yn lle'r ysgol fabanod ac iau bresennol.
  • Wrth weithio’n flaengar, gwelwyd 95% o landlordiaid preifat yn cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
  • Agorodd Llys Raddington, gan ddarparu 73 o unedau gofal ychwanegol yn y Fflint, gan ddod â chyfanswm nifer o unedau i 184, gyda 59 arall yn cael eu hadeiladu yn Nhreffynnon.
  • Mae estyniad 32 gwely yng Nghartref Gofal Marleyfield yn mynd drwy’r cam dylunio ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o ddechrau gwaith yng nghanol 2021.
  • Mae Hwb Cyfle, a ddaeth yn lle Canolfan Ddydd Glanrafon, ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu, wedi agor.
  • Mae’r Hwb Cymorth Cynnar yn weithredol, gydag ymrwymiad yr holl asiantaethau. Yn ystod y flwyddyn, mae 1,246 o deuluoedd wedi cael mynediad i’r Hwb ac wedi derbyn gwybodaeth a / neu gefnogaeth.
  • Agor Canolfan Ailgylchu Cartref newydd i wasanaethu’r Fflint a Chei Connah yn Rockcliffe, Oakenholt.
  • Darparwyd cefnogaeth ddigidol i 676 o dderbynyddion Credyd Cynhwysol.
  • Mae cyfanswm o 456 o gleientiaid rhwng Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy, wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen yn ystod 2018/19. Maent oll wedi derbyn mentor.

 Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

“Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn meysydd a nodwyd yn flaenoriaethau. Er gwaethaf pwysau ariannol mawr a llai o gyllid cenedlaethol, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol ac wedi llwyddo i gyflawni ei nodau am flwyddyn arall.”

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae'r Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda, gan osod targedau a chyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor.”   

Mae’n rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 22 Hydref, bydd gofyn i’r cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad i gael ei gyhoeddi.