Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar y cynnig gofal plant

Published: 18/10/2019

Mae Cabinet y Cyngor am dderbyn adroddiad ar y Cynnig Gofal Plant wedi’i Ariannu ar gyfer plant 3-4 oed, a'r gwaith a gyflawnir i gefnogi teuluoedd i gael mynediad at y Cynnig yn ei gyfarfod ar 22 Hydref.

Mae Llywodraeth Cymru, deuddeng mis ar y blaen, wedi cyflawni ei ymgymeriad i ddarparu gofal plant hyd at 30 awr wedi’i ariannu i rieni sy’n gweithio gan y llywodraeth ac addysg gynnar i blant 3 a 4 oed erbyn i Senedd Cymru gyfredol ddod i ben yn 2021. Mae hyn wedi bod yn ddull ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a’r Llywodraeth. Roedd Sir y Fflint oedd un o’r Awdurdodau Gweithredu Cynnar; ac mae'n Awdurdod Cyflawni ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych.

Proseswyd ceisiadau gan rieni cymwys y tro cyntaf yn Sir y Fflint ym mis Mehefin 2017, i blant gael mynediad i'r Cynnig o fis Medi 2017 ymlaen. Gweithredwyd y Cynnig yn llawn ledled Sir y Fflint ym mis Mai 2018, ac ar hyn o bryd mae 1200 o blant yn Sir y Fflint yn cael mynediad i’r Cynnig, sydd yn un o’r cyfraddau derbyn uchaf yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol;

“Nod y Cynnig yw cefnogi teuluoedd gyda gofal o ansawdd, hyblyg a fforddiadwy, ac mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Sir y Fflint, y sector gofal plant a’n cymunedau lleol.

“Mae’r Cynnig hefyd yn cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau pwysau ar incwm i deuluoedd, ac mae nifer o rieni wedi cadarnhau eu bod wedi dychwelyd i’r gwaith neu wedi cynyddu oriau gwaith o ganlyniad i gael y Cynnig, ac mae hyn wedi lleihau’r risg o dlodi i nifer o deuluoedd.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynnig ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

Mae cyngor a chymorth ar gael hefyd i rieni a gan bartneriaid y sector gofal plant gan gynnwys Blynyddoedd Cynnar Cymru, Gofalwyr Plant, Meithrinfeydd Dydd a’r Mudiad Meithrin.