Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathlu Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2019

Published: 21/10/2019

Dathlwyd Gwobrau Busnes Blynyddol Sir y Fflint, am y drydedd flwyddyn ar ddeg, mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd Sychdyn yn ddiweddar.

Mae’r Gwobrau, a oedd yn cael eu noddi’n bennaf gan AGS Security Systems am y degfed flwyddyn, yn nodi rhagoriaeth a pherfformiad rhagorol gan fusnes ar draws y sir.

Cafodd enillwyr y deg categori eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du arbennig nos Wener 18 Hydref. Gyda chynulleidfa o dros 200 o bobl fusnes dylanwadol, bu cwmnïau Sir y Fflint yn dathlu eu llwyddiannau.

Gellir gweld crynodeb o'r holl enillwyr isod.

Winners FBA 19.jpg

Cyflwynwyd Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones gan yr Rt Hon. Arglwydd Barry Jones i Steve Morgan o Grwp P&A sydd wedi’i leoli yn yr Wyddgrug am ei wasanaethau rhagorol o fusnes a’r economi leol.

Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Rt Hon Barry Jones: 

“Rydw i'n falch iawn o gyflwyno'r wobr hon i Mr. Steve Morgan sy’n haeddu derbyn y gydnabyddiaeth hon am y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud i gefnogi'r Sir gwych hwn – da iawn yn wir!”

 LBJSM Legacy Award.jpg 

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Hoffwn longyfarch holl enillwyr eleni.  Mae’r gystadleuaeth hon, fel bob blwyddyn wedi bod yn ffyrnig – Dydw i ddim yn genfigennus o’r beirniaid am orfod gwneud penderfyniad!  Mae’n braf gweld y Gwobrau yn mynd o nerth i nerth wrth i ni ddathlu llwyddiannau’r busnes ar draws y sir”.

“Hoffwn hefyd ddiolch i'n prif noddwyr, AGS Security Systems a’n holl noddwyr eraill, sydd wedi gwneud y digwyddiad gwych hwn yn bosibl unwaith eto.  Mae’n galonogol gweld bod busnesau Sir y Fflint yn gweld gwerth i‘r gwobrau hyn, ac eisiau cefnogi ei gilydd.”

Llongyfarchodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud: 

"Rydym yn falch o fod yn brif noddwr i Wobrau Busnes Sir y Fflint 2019. Rydym wedi bod yn rhan o’r Gwobrau am ddeng mlynedd yn olynol ac mae'r gwobrau yn cydnabod talent, arloesedd ac uchelgais gwych o fewn y sir.

"Yn AGS, fe welwn ni'r straeon llwyddiant o flwyddyn i flwyddyn yn y gwobrau. Dyna pam yr ydym wrth ein bodd o fod yn rhan o Wobrau Busnes Sir y Fflint unwaith eto ac i helpu i ddathlu llwyddiannau'r nifer o sefydliadau.  Mae ein cwmni yn gwybod mwy na'r mwyafrif am yr hyn y mae ennill un o'r gwobrau hyn yn ei olygu i ymgeiswyr”.

AGS Sponsors 19.jpg

Mae enillwyr a noddwyr y categorïau wedi eu rhestru isod:

Award Sponsor Winner
     
Prentisiaeth  Cambria for Business Georgia Jones, Grwp Wates
Gwobr Person Busnes y Flwyddyn   Edge Transport Steve Evans - Parry & Evans Cyf
Gwobr Busnes Gorau gyda dros 10 o weithwyr KK Fine Foods PLC Click Convert
Gwobr Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr Pro Networks Cariad Gin - Distyllfa Cyfyngeidg Bryniau Clwyd 
Gwobr Busnes gorau i weithio iddo P & A Group Parry & Evans Cyf
Gwobr y Fenter Gymdeithasol Orau Galliford Try Danger Point
Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol Gwely a Brecwast   Wates Construction Gwely a Brecwast Hope Mountain
Gwobr Arloesedd, Technoleg a Menter Kingspan Insulated Panels Remsdaq Cyf


I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu ewch i www.siryfflintgwobraubusnes.com.