Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr i Ofal Plant

Published: 28/10/2019

Mae Cymunedau am Waith Sir y Fflint wedi darparu llwybr i gyflogaeth llwyddiannus arall. Mae’r llwybr i Ofal Plant wedi rhoi cyfle i bobl leol ennill yr hyfforddiant a'r sgiliau angenrheidiol i ddechrau eu gyrfa yn y sector Gofal Plant.

Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, mae’n helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Mae’r rhaglen yn targedu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint. Mae’n ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal â’u helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.

Roedd y llwybr, a gynhaliwyd dros bythefnos, yn cynnwys hyfforddiant achrededig ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys; Cymorth Cyntaf Pediatrig, Iechyd a Diogelwch, Diogelwch Bwyd, Diogelu a Chyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc, Y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant. Roedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth a chanllawiau i gyfranogwyr mewn perthynas â llwybrau gyrfa a swyddi gwag yn y sector.   

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’r cyrsiau "llwybr" hyn yn gyfle gwych i bobl ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith mewn sector sydd o ddiddordeb iddynt. Nid yn unig mae’r cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.” 

Newyddion da hyd yma – mae un o’r sawl a gymerodd rhan yn y rhaglen llwybrau wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau rôl Prentis Cynorthwyydd Addysgu yn Ysgol Gynradd Queensferry, sy’n newyddion gwych!

Am wybodaeth bellach ynghylch Cymunedau am Waith, neu os hoffech chi gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r rhaglenni llwybr, cysylltwch â'r swyddfa ar 01352 704430.

 

IMG_0034.jpg

Nia Parry -  Cymunedau am Waith, Paula Colledge, Edyta Wasiak, Rhianna Jones, Alexandra Foster, Sian Williams, Laura Gelder, Imogen Sillah, Shannon Latham ac Louise Stokes (Groundwork)