Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn dathlu lleoliadau cyn-ysgol iach

Published: 29/10/2019

Yn ddiweddar, cynhaliwyd ail Ddathliad Llwyddiant Cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy (HSPSS) Sir y Fflint.

Roedd y digwyddiad yn cydnabod llwyddiannau lleoliadau cyn-ysgol ym mhob agwedd o’r cynllun a’u hymrwymiad i iechyd a lles plant. 

Mae’r HSPSS yn fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’i gydlynu yn Sir y Fflint gan dîm o Swyddogion Ysgolion a Chyn-Ysgol Iach yn y portffolio Addysg ac Ieuenctid.

Ar hyn o bryd mae 45 lleoliad yn cymryd rhan yn y cynllun yn Sir y Fflint ac maent i gyd yn gweithio tuag at hyrwyddo ac amddiffyn pob agwedd o iechyd gan gynnwys: gweithgarwch corfforol, maeth ac iechyd y geg, iechyd a lles emosiynol, diogelwch, hylendid a lles eu staff. 

Trefnwyd y digwyddiad gan Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid a rhoddwyd cyflwyniad gan Sid Madge o’r rhaglen MEEE.

Cyflwynwyd y Gwobrau gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Marion Bateman, gyda’i Chymar, y Cynghorydd Haydn Bateman.  Dywedodd y Cynghorydd Bateman: 

 “Rwyf wrth fy modd yn cael cyflwyno'r gwobrau hyn heno.  Mae’n bleser gweld cymaint o leoliadau cyn-ysgol yn dangos eu hymrwymiad i hyrwyddo iechyd a lles. Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad gwych a chalonogol – da iawn bawb a gymerodd ran.” 

Y lleoliadau cyn-ysgol sydd wedi cwblhau’r cynllun yn llawn yn 2019 yw: Meithrinfa Ddydd Hope Green, Meithrinfa Ddydd Buttercups, Sue Formstone a Meithrinfa Ddydd First Steps.  

Y lleoliadau sydd wedi cael asesiad llwyddiannus ar gyfer un neu fwy o’r themâu iechyd o fewn y flwyddyn ddiwethaf yw:  Clwb Gofal Plant Bryn Coch, Cylch Meithrin Terrig, Yr Wyddgrug, Pam Nicholls, Meithrinfa Ddydd Podlings, Lleoliad Cyn-ysgol Sandycroft, Meithrinfa Ddydd Little Stars, Stephanie Mckie, Little Monsterz. 

Flintshire Healthy Pre School Awards 12.jpg