Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Polisi Goleuadau Stryd
  		Published: 17/04/2015
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (21 Ebrill), bydd y Cabinet yn trafod polisi 
goleuadau stryd newydd. Nod y polisi yw darparu gwasanaeth effeithiol ac 
effeithlon, a lleihau ôl-troed carbon y Cyngor.   
Mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen ar dros 20,000 o oleuadau stryd a 3,250 o 
arwyddion wedi’u goleuo ledled y Sir, a’r Cyngor sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u 
cadw. Mae hefyd yn cynnal a chadw goleuadau cefnffyrdd ar ran Llywodraeth 
Cymru. 
Ar hyn o bryd, mae’r trydan a ddefnyddir i redeg yr holl unedau hyn yn costio 
tua £864,000 y flwyddyn.
Oherwydd datblygiadau technolegol newydd yn y diwydiant, mae’n awr yn bosibl 
newid sut  y caiff  goleuadau stryd eu rheoli. Mae’r datblygiadau hyn  yn 
helpu’r Cyngor i gyflawni ei nod a’i ymrwymiad i ddefnyddio llai o ynni ac i 
leihau ei ôl-troed carbon. Mae’r rhain yn cynnwys gosod cyfarpar arbed ynni ac 
unedau goleuadau rhad-ar-ynni bob tro y bydd angen newid hen unedau.
Datblygwyd y polisi newydd ar ôl ymgynghori â chynghorwyr sir, tref a chymuned. 
Bydd yn ymestyn y cynllun i oleuo rhai strydoedd am ran o’r nos. Bwriedir 
diffodd y goleuadau stryd mewn rhai ardaloedd penodol rhwng hanner nos a 5am.
Bydd yr amser safonol i ymateb i geisiadau i drwsio goleuadau stryd yn newid i 
10 diwrnod gwaith. Os penderfynwyd, ar ôl cynnal asesiad risg, bod angen goleuo 
lleoliad yn well er diogelwch, (ee tai cysgodol, CCTV a safleoedd hanfodol 
eraill) caiff y lleoliad hwnnw ei eithrio a bydd y cyfnod ymateb safonol yn 
parhau, sef tri diwrnod gwaith.
Bydd y Cyngor hefyd yn lleihau’r drefn archwilio gyda’r nos. Ar hyn o bryd 
mae’n cynnal archwiliadau fin nos bob 14 noson i weld lle mae’r diffygion ond 
bydd hyn yn ymestyn i 28 diwrnod.  
Yn ogystal â sicrhau arbedion drwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon a lleihau 
carbon, disgwylir i’r mesurau hyn arbed  £50,000 y flwyddyn pan gânt eu rhoi ar 
waith. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet 
dros yr Amgylchedd: 
“Nod cyffredinol polisi goleuadau stryd y Cyngor yw rheoli a sicrhau rhwydwaith 
goleuadau stryd diogel ac effeithlon sy’n sicrhau diogelwch pawb – helpu i 
wella ymddygiad gyrwyr, lleihau trosedd a chreu cymunedau mwy diogel. 
“Cytunwyd ar gynlluniau i leihau adnoddau goleuadau stryd a chyflwyno cynllun i 
oleuo strydoedd am ran o’r nos fel rhan o gynigion y gyllideb, i’n helpu ni i 
arbed arian. Rydym yn ddiolchgar i’r cynghorwyr, sir, tref a chymuned a ddaeth 
i’r gweithdai ac a roddodd sylwadau ar y newidiadau hyn; maent wedi’u cynnwys 
yn y polisi newydd.”