Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Gwresogi ac Arbed Ynni yn dod â Gaeaf Cynhesach i’r Sawl mewn Angen

Published: 06/11/2019

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi lansio cynllun newydd i helpu trigolion sydd angen cymorth i gadw’n gynnes y gaeaf hwn. 

Mae’r Cyngor wedi sefydlu cronfa argyfwng newydd i bobl sy’n methu fforddio gwresogi eu cartrefi ac angen cefnogaeth uniongyrchol.   Mae’r cynllun yn gweithio gyda chynlluniau presennol gan weithredu fel rhwyd diogelwch, os na fydd pobl yn cymhwyso ar gyfer rhai cynlluniau, gallwn barhau i gael cymorth os bydd ganddynt angen gwirioneddol. 

Mae amcangyfrif yn dangos bod 30% o gartrefi yng Nghymru yn dioddef tlodi tanwydd sy’n golygu eu bod angen gwario 10% o’u hincwm i wresogi’r ty yn ddigonol. 

Dywedodd y  Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae sicrhau bod holl drigolion yn gallu cadw’n gynnes y gaeaf hwn yn brif flaenoriaeth i Gyngor Sir y Fflint.  Bydd y gronfa newydd hon yn cynorthwyo pobl pan maent ei angen fwyaf, eu helpu i gydlynu gwasanaethau a sicrhau y gall pawb gael mynediad i’r cymorth maent ei angen i aros yn gynnes ac yn ddiogel yn eu cartref.”   

Mae trigolion sy’n cael budd o’r rhaglen yn cynnwys Mr Bray o Garden City, oedd yn gallu cael budd o foeler newydd pan wnaeth o ddarganfod nad oedd yn gallu ei drwsio na’i ddisodli ei hun.   Roedd y Cyngor yn gallu cael cyfraniad drwy’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni, swm pellach drwy  Sefydliad Cymuned Cynghrair Caffael Cymru a chafodd y balans ei ariannu drwy’r gronfa argyfwng newydd.   

Dywedodd Mr Bray:

“Mae’r cynllun yn ardderchog.  Mae wedi gwneud llawer o wahaniaeth i mi.  Gyda dechrau’r gaeaf, rwy’n teimlo’n fwy diogel nawr gan y bydd y gwres yn gweithio.”

Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Thîm Prosiect Arbed Ynni Domestig y Cyngor ar 01352 703443 neu e-bost deepadmin@flintshire.gov.uk.

New Boiler from Crisis Fund 01.jpg