Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofiwch gofrestru mewn pryd i bleidleisio

Published: 06/11/2019

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae cartrefi yn Sir y Fflint wedi derbyn ffurflen yn gofyn i drigolion wirio a yw'r wybodaeth sy'n ymddangos ar y gofrestr etholiadol ar gyfer y cyfeiriad yn gywir. Mae hyn wedi cael ei wneud fel rhan o Ganfasio Blynyddol cartrefi.   

Er mwyn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf mae’n rhaid i chi gofrestru. Mae’r rhan fwyaf o drigolion eisoes wedi ymateb i’r Canfasio Blynyddol. Os nad ydych – gwiriwch eich ffurflen ac os nad yw eich manylion wedi newid gallwch ymateb drwy radffôn, y rhyngrwyd neu destun.  Os yw’r manylion wedi newid gallwch ddiweddaru’r wybodaeth drwy ymweld â www.registerbyinternet.com/flintshire neu fel arall gallwch bostio’r ffurflen yn ôl atom.  

Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio ar hyn o bryd, gallwn anfon gwybodaeth atoch yn egluro sut i wneud hyn, neu gallwch anfon cais i gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote, cysylltu â’r Tîm Etholiadau ar y rhif isod neu gallwn anfon ffurflen atoch.    Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn dydd Mawrth, 26 Tachwedd er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn. 

Dywedodd Colin Everett, Swyddog Cofrestru Etholiadol Sir y Fflint:

 “Mae’n bwysig bod pobl yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r Canfasio Blynyddol yn diweddaru’r gofrestr etholwyr.

 “Yn dilyn cyhoeddiad yr Etholiad Cyffredinol i’w gynnal ar 12 Rhagfyr, mae ein Tîm Etholiadau wedi gweld cynnydd yn yr ymholiadau gan drigolion sydd eisiau gwirio i weld a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.    

 “Mae’r Tîm Etholiadau yn gallu cynorthwyo preswylwyr gydag ymholiadau. Fodd bynnag, os ydych eisoes wedi ymateb i’r Canfasio Blynyddol i gadarnhau neu i ddiweddaru eich manylion a’ch bod wedi cofrestru’n unigol drwy ddarparu eich dyddiad geni a Rhif Yswiriant Gwladol (os nad ydych wedi cofrestru eisoes) yna nid oes angen ailgofrestru.  Dylech ond cysylltu â ni os ydych yn dal angen cofrestru yn unig.”

Gofynnir i breswylwyr ddychwelyd eu ffurflenni erbyn 26 Tachwedd a gall unrhyw un sydd angen rhagor o gyngor neu gymorth gysylltu â'r Tîm Etholiadau ar 01352 702412 neu anfon e-bost at: register@flintshire.gov.uk