Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad i agor Canolfan Gofal Ddydd i Oedolion yn llwyddiant

Published: 12/11/2019

Bu dathliad yn ddiweddar i nodi agoriad swyddogol Canolfan Ddydd newydd i Oedolion – Hwb Cyfle. 

Roedd swyddogion ac aelodau o Gyngor Sir y Fflint, ynghyd â chynrychiolwyr o’u sefydliadau partner a gwleidyddion lleol yn bresennol i nodi achlysur arbennig y Ganolfan Ddydd a Chyfleoedd Gwaith yn Shotton. 

Mae’r ganolfan newydd yn darparu canolfan gofal dydd unllawr i oedolion sy’n arbenigo mewn cyfleusterau dydd cymunedol a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion diamddiffyn gydag ystod o anableddau dysgu.   Caiff y gwasanaethau eu gweithredu gan Hft, elusen sydd yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu.  Hft yw’r partner y mae’r Cyngor yn ei ffafrio i redeg y gwasanaethau hyn gyda ni, ac ar ein rhan ni. 

Roedd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa ryngweithiol o’r gwasanaethau sydd ar gael a thaith o amgylch yr adeilad, yn ogystal â seremoni pan gladdwyd capsiwl amser yn yr ardd synhwyraidd. 

Mae Sir y Fflint wedi arwain y ffordd gyda phob partner allweddol i ddatblygu’r ganolfan hon sy’n anelu i integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector yn well, i helpu grymuso pobl sydd ag anableddau dysgu i fanteisio ar fwy o gyfleoedd yn eu cymuned leol.  Mae’r cyfleusterau, a’r gwasanaeth ar flaen y gad yng Nghymru. 

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:

 “Mae’r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau hanfodol i bobl sydd ag anableddau dysgu. Rydym wedi clustnodi £4 miliwn i adeiladu’r cyfleuster gan ddangos ein hymrwymiad i ddyfodol y gwasanaeth allweddol hwn.  Mae’r adeilad newydd yn gwbl fodern ac mae defnyddwyr gwasanaeth, aelodau o’u teuluoedd a’n staff wedi bod yn mwynhau’r cyfleuster ers i’r drysau agor ym mis Mehefin. Rydym yn falch iawn o’n cyflawniad ac mae ein cleientiaid wrth eu bodd gyda’r lleoliad newydd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Isadran Hft, Andrew Horner: 

“Ers ymuno â Chyngor Sir y Fflint dros 18 mis yn ôl, ein nod oedd cyfuno ein harbenigedd i gefnogi pobl gydag anableddau dysgu i fyw’r bywyd gorau posibl. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi cefnogi 12 unigolyn i gael gwaith yn lleol a chyflwyno ystod eang o weithgareddau ystyrlon i gefnogi pobl i ymgysylltu yn y gymuned leol. 

“Mae’r adeilad newydd yn dangos ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i’n cefnogi ni wrth gyflwyno canlyniadau cadarnhaol i’r bobl rydym yn eu cefnogi ac a fydd yn ein helpu i wella gwasanaethau ymhellach wrth symud ymlaen ac wrth i ni barhau i gefnogi pobl yn lleol i gymryd rheolaeth o’u bywydau a byw gyda rhagor o annibyniaeth a dewis.”

Darparwyd y prosiect gan Kier a dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Kier Regional Building yn y Gogledd Orllewin, Peter Commins: 

Rydym ni’n ymrwymedig yn Kier i greu gwerth ehangach i bobl a chymunedau ym mhopeth yr ydym yn ei wneud. Rydym yn gweithio’n galed i gael effaith gymdeithasol gadarnhaol ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu gadael cymynrodd barhaol i bobl Sir y Fflint yn ystod y gwaith o ddarparu’r Ganolfan Ddydd i Oedolion yn Queensferry.”

Hwb Cyfle-23.jpg

Dathlu Hwb Cyfle: Andrew Collinge, y Cynghorydd Ian Roberts,
Richard Robinson (Kier), y Cynghorydd Marion Bateman, Arglwydd Raglaw
ar gyfer Clwyd gyda gwesteion gwahoddedig eraill

Hwb Cyfle-8.jpg

 

 

Hwb Cyfle-15.jpg Hwb Cyfle-19.jpg