Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif 

Published: 15/11/2019

Gofynnir i aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried a chymeradwyo adroddiad ar ddiwygiadau i’r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif parhaus yn eu cyfarfod ar 19 Tachwedd.

Mae’r adroddiad uchelgeisiol hwn yn nodi’r rhesymau ar gyfer y newidiadau arfaethedig i gyflwyniad y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae ail gam “Band B” Rhaglen yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint eisoes wedi dechrau gyda phrosiectau yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, Campws Queensferry (Gwasanaeth Uned Atgyfeirio Disgyblion Plas Derwen ac Ysgol Gynradd Queensferry), Ysgol Croes Atti yn y Fflint ac Ysgol Brynford, ond er mwyn sicrhau y bydd gan y Cyngor y cyfleusterau addysgol gorau i ddiwallu anghenion yn y dyfodol, mae nifer o ffactorau sydd wedi arwain at adolygiad a newidiadau posibl i Raglen Strategol Band B gwreiddiol y Cyngor, gan gynnwys:

  • Penderfyniad blaenorol y Cyngor i beidio â symud ymlaen gyda’r uniad rhwng yr ysgolion cynradd yn Lixwm a Brynford.
  • Opsiynau ychwanegol o ganlyniad i argaeledd yr astudiaethau dichonolrwydd technegol, manwl.
  • Grantiau allanol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer hyrwyddo addysg Gymraeg ac ar gyfer Gofal Plant.
  • Demograffeg sy’n newid a datblygiadau tai arfaethedig ar raddfa fawr yn dynodi y dylai adolygiad o addysg gynradd ac uwchradd gael ei gyflawni yn ardaloedd ehangach Saltney a Brychdyn er mwyn sicrhau lleoedd digonol yn y dyfodol.
  • Fforddiadwyedd y rhaglen ar y cyfan.

Byddai symud ymlaen gyda'r projectau arfaethedig yn y Rhaglen Strategol wreiddiol yn golygu y bydd angen cynyddu’r cyllid tu hwnt i’r hyn sydd wedi ei gytuno ar hyn o bryd.  Mae dau ateb posib i hyn, lleihau’r nifer o brosiectau a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar y prosiectau arfaethedig yn Ysgolion Uwchradd y Fflint, Penarlâg ac Alun, neu cynyddu’r cyllid er mwyn cyflawni’r holl brosiectau.

Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard:

“Mae tystiolaeth gymhellol i gefnogi’r opsiwn ar gyfer cynyddu’r cyllid.  Gwyddwn fod ysgolion uwchradd angen moderneiddio er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu’r cwricwlwm yn effeithiol.  Yn ogystal â hyn, rydym wedi nodi, yn yr hirdymor y bydd pwysau o ran capasiti yn Ysgol Uwchradd Penarlâg ac Ysgol Uwchradd y Fflint yn y dyfodol, o ganlyniad i ddatblygiadau tai posibl yn yr ardal leol.

“Rydym eisiau sicrhau’r canlyniadau addysgol gorau bosibl ar gyfer ein disgyblion.  Er mwyn gwneud hyn, rydym angen bod yn uchelgeisiol a chynllunio ar gyfer y dyfodol ac edrych ar ddatblygiadau mwy lle bo hynny’n briodol, yn arbennig os oes tystiolaeth o angen lleol parhaus."