Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Darpariaeth mynwentydd Sir y Fflint

Published: 15/11/2019

Pan fydd Cabinet Sir y Fflint yn cyfarfod ar 19 Tachwedd fe ofynnir i aelodau gymeradwyo prynu'r tir a nodwyd ar gyfer ymestyn mynwentydd yr Hôb a Phenarlâg a hefyd cymeradwyo’r gwaith o ymchwilio i’r ddarpariaeth gladdu yn y dyfodol mewn mynwentydd eraill.

Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint: 

“Os yw’r ymestyn yn cael ei gymeradwyo yn yr Hôb a Phenarlâg, byddai hyn yn sicrhau isafswm o 20 mlynedd o ran capasiti claddu ymhob safle yn y Sir. Oni bai fod y camau gweithredu hyn yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gofod claddu ni fyddai modd mwyach i roi preswylwyr lleol i orffwys yn eu mynwent leol gydag aelodau eraill eu teulu a’u hanwyliaid." 

Mae’r Gwasanaethau Profedigaeth ar hyn o bryd yn rheoli 15 mynwent ac wyth mynwent eglwys gaeëdig yn ogystal â dwy ardd goffa ym Mhenarlâg a Celstryn, ardal goffa plant a babanod ac ardal gladdu mewn coedlan, y ddwy ardal wedi eu lleoli ym mynwent Celstryn.