Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Gynnydd i Ddarparwyr 

Published: 15/11/2019

Bydd Aelodau Cabinet Sir y Fflint yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar y rhaglen arloesol ‘Cynnydd i Ddarparwyr – Creu Lle a Elwir yn Gartref... Darparu’r Hyn sy’n Bwysig’ pan maent yn cwrdd yn ddiweddarach y mis hwn.  

Mae ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ yn anelu i greu dull personol ar y gwasanaethau gofal preswyl yn Sir y Fflint, gan sicrhau pwyslais ar ansawdd bywyd.  

Yn Sir y Fflint mae 26 o Gartrefi Gofal Nyrsio a Phreswyl sy’n cefnogi dros 800 o bobl hyn i fyw yn dda. Mae’r rhan fwyaf o’r cartrefi hyn yn eiddo i, ac yn cael eu rheoli gan bobl fusnes lleol sy’n wynebu heriau sylweddol o ran sicrhau fod eu busnesau a’r sector gofal yn llwyddiannus.

Un ar bymtheg o’r 26 o gartrefi wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r cam cychwynnol ble roeddent wedi dilyn pecyn hunanasesiad a ddatblygwyd gan Sir y Fflint, gyda thair lefel achredu – efydd, arian ac aur. 

Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol;

“Rydyn ni’n credu y byddwn drwy ddatblygu ymagwedd wedi'i bersonoli tuag at ofal drwy ein cynllun achredu yn gallu gwella safon bywyd pobl hyn, tra’n cyfrannu ar yr un pryd tuag at wella recriwtio, cynnal a datblygiad o fewn y sector gofal hwn.  

“Mae’r cynllun hwn wedi’ gydnabod yn genedlaethol, gan ennill Gwobr Acoladau Gofal Cymdeithasol Cymru a bod yn y rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Cymdeithas Gwasanaeth Cyhoeddus – gan ardystio’r ffaith bod Sir y Fflint yn darparu perfformiad cadarnhaol a dyheadau cryf o fewn Gofal Cymdeithasol.”

Ar hyn o bryd mae 15 o Gartrefi Gofal Preswyl yn Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn cyflawni achrediad Efydd, gyda 6 o’r cartrefi hyn bellach yn anelu at arian.   Mae’r 9 cartref arall yn cwblhau eu proses adolygu cyn iddynt hefyd symud ymlaen i Arian.

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i weithio gyda’r cartrefi gofal eraill i’w symud tuag at achrediad Efydd.  

Gwnaed gwaith i ddatblygu Cynnydd i Ddarparwyr ar gyfer gofal cartref drwy greu cyfle i gael secondiad i unigolyn gyda chefndir gofal cartref i ddod i weithio gyda’r tîm i ddatblygu a chynnal peilot o’r rhaglen yn y sector hwn.   Bydd darparwyr gofal cartref yn dechrau ar achrediad Arian, oherwydd natur eu gwaith.  Mae dwy asiantaeth gofal cartref wedi dechrau eu Hachrediad Arian gyda dau arall ar fin dechrau’n fuan.