Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr genedlaethol ar gyfer ysgol iach leol 

Published: 21/11/2019

Mae ysgol uwchradd leol wedi cyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol gan Ysgolion Iach.

Ysgol Uwchradd Penarlâg yw’r ail ysgol uwchradd yn Sir y Fflint i gyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol a’r 21ain ysgol uwchradd yng Nghymru.

Mae'r Cynllun Ysgolion Iach yn fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n cydnabod ymrwymiad ysgol i iechyd a lles.

Rhoddodd aelodau o’r Cyngor Ysgol gyflwyniad ar y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gan gymuned yr ysgol, gan ddangos cyfranogiad y disgyblion wrth weithio tuag at gyflawni’r wobr hon.

Wrth gyflwyno’r Wobr i’r ysgol, dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman:

“Y Wobr Ansawdd Genedlaethol yw’r acolâd uchaf yn y cynllun.  Mae’n bwysig iawn ein bod yn cydnabod y gwaith ardderchog sydd wedi cael ei gyflawni ers dros ddegawd yn Ysgol Uwchradd Penarlâg a dathlu eich cyflawniad heddiw.  Mae’n braf clywed yr hyn sy’n cael ei gyflawni i hyrwyddo holl agweddau iechyd gwahanol ar draws yr ysgol a chlywed bod cymaint o gyfranogiad gan ddisgyblion wth ddatblygu’r gwaith.”

Dywedodd Simon Budgen, pennaeth yr ysgol: 

“Rwy’n hynod o falch o gyflawniad yr ysgol drwy gydweithio, a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.  Mae heddiw’n amlygu gwaith tîm ardderchog ein holl ddisgyblion ac athrawon, ac rwy'n hynod o falch o fod yr ail ysgol yn sir y Fflint i dderbyn y wobr hon - da iawn i bawb sy'n gysylltiedig. “

Roedd y Cynllun Ysgolion Iach wedi’u plesio’n fawr gydag Ysgol Uwchradd Penarlâg, a dywedodd Linda Lewis, y prif ddilysydd, yn yr adroddiad:

“Mae iechyd a lles wedi cael eu plethu i bob agwedd ac elfen o fywyd yr ysgol, gan gynnwys y cwricwlwm, amgylchedd yr ysgol, perthnasau o fewn ac ar draws yr ysgol a gyda grwpiau allanol ac asiantaethau, roedd yn bleser ac yn fraint bod yn dyst ... Yn sicr, mae Ysgol Uwchradd Penarlâg yn ysgol sy’n hyrwyddo iechyd ac yn llwyr haeddiannol o’r Wobr Ansawdd Genedlaethol.”

Gellir dod o hyd i’r ddolen i adroddiad llawn Ysgolion Iach yma (https://www.hawardenhigh.org.uk/wp-content/uploads/2019/11/Healthy-School-Report-1.pdf).

Healthy Schools Award (9 of 9).jpg