Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Gwasanaethau Cwsmeriaid Newydd

Published: 17/04/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol yn ganolog i’r gwaith o gynllunio a darparu ei holl wasanaethau, ac yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 21 Ebrill, bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried polisi gwasanaethau cwsmeriaid newydd. Mae’r polisi newydd yn adlewyrchu’r newidiadau yn y modd y mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau. Mae’n cydnabod datblygiadau technolegol a’r cyfleoedd cysylltiedig i gwsmeriaid gysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau’n ddigidol. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Pan fydd cwsmeriaid yn cysylltu â gwasanaethau’r Cyngor, ein nod yw sicrhau eu bod yn cael gwasanaethau cwsmeriaid o’r radd flaenaf. Mae’r polisi newydd hwn yn tanlinellu’n hymrwymiad i sicrhau gwasanaethau rhagorol a bod y Cyngor hwn yn parhau’n sefydliad modern, effeithlon sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.”