Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae Sir y Fflint o ddifrif am werth cymdeithasol

Published: 26/11/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi penodi swyddog datblygu gwerth cymdeithasol yn ddiweddar – sydd wedi’i ymrwymo i wneud y mwyaf o’r gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu o ddarpariaeth gwasanaethau’r cyngor.

Mae’r penodiad yn amlygu ymrwymiad y cyngor i edrych tu hwnt i bris pob contract unigol, gan ystyried y buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ehangach o ran y gymuned wrth ddyfarnu contractau. 

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwerth cymdeithasol ers nifer o flynyddoedd, er enghraifft: uchafu gwariant gyda busnesau lleol, creu cyfleoedd sgiliau a gwaith, lleihau gwastraff a’i effeithiau ar yr amgylchedd lleol a lleihau amddifadedd bwyd a thlodi tanwydd lleol. 

Dywedodd Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, Neil Ayling:

“Rydym yn falch o groesawu Olivia Hughes i’r swydd, ac yn dymuno’n dda iddi wrth ddarparu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer gwerth cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i greu mwy o werth cymdeithasol ar draws ein holl wasanaethau, a sicrhau bod y buddion cysylltiedig yn cyrraedd cymaint o bobl, cymunedau a busnesau o fewn ein meysydd gwasanaeth â phosib.”